Llwyth Germanaidd Dwyreiniol oedd y Gothiaid.
Ymestynon nhw ar hyd ffiniau gogleddol yr Ymerodraeth Rufeinig yn y canrifoedd cynnar O.C. Cawn ddisgrifiad manwl ohonynt gan yr hanesydd Rhufeinig Jordanes yn ei hanes o'r Gothiaid (De origine actibusque Getarum, tua 550 OC). Nhw oedd y llwyth Germanaidd cyntaf i dderbyn Cristnogaeth drwy genhadaeth Esgob Ulfila (c. 311-383). Cyfieithiwyd y Beibl i'r iaith Gotheg ganddo gan ddefnyddio gwyddor arbennig a greodd drosti. Roedd y ffurf ar Gristnogaeth a dderbyniodd y Gothiaid gan Esgob Ulfila yn cynnwys yr heresi Ariadaidd, a hyn oedd un o'r rhesymau am i'r heresi ledu'n eang ymysg y llwythau Germanaidd eraill.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gothiaid, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.