Y résistance (Ffrangeg am wrthwynebiad) neu'r Gwrthsafiad Ffrengig yw'r enw cyffredinol ar y mudiad a oedd yn gwrthwynebu ymosodiad milwrol yr Almaen ar Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd yn safiad yn erbyn yr Almaenwyr, oedd yn meddiannu rhan o Ffrainc, a Llywodraeth Vichy dan Philippe Pétain a oedd yn llywodraethu'r rhan arall dan nawdd yr Almaen. Cafodd y résistance ei hysgogi gan apêl Charles de Gaulle ar 18 Mehefin 1940.
Rhan o'r mudiad oedd y Maquis, oedd yn cynnal rhyfel guerilla, yn bennaf yn yr ardaloedd gwledig. Roedd rhannau eraill o'r résistance yn cyhoeddi newyddiaduron cudd, yn darparu gwybodaeth i'r Cynghreiriaid neu yn cynorthwyo aelodau o luoedd arfog y Cynghreiriaid i ddianc o Ffrainc.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Résistance, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.