Mynydd uchaf Indonesia a chopa uchaf Oceania yw Puncak Jaya.
Gydag uchder o 4,884 medr, ef yuw'r mynydd uchaf rhwng yr Himalaya a'r Andes, a'r copa uchaf ar ynys.
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Saith Pegwn |
Sir | Mimika |
Gwlad | Indonesia |
Uwch y môr | 4,884 metr |
Cyfesurynnau | 4.08°S 137.18°E |
Amlygrwydd | 4,884 metr |
Cadwyn fynydd | Sudirmanbergen |
Deunydd | calchfaen |
Saif y mynydd ym Mynyddoedd Sudirman yn nhalaith Papua ar ynys Gini Newydd. Gerllaw, mae cloddfa aur fwyaf y byd, Cloddfa Grasberg. Enw gwreiddiol y mynydd oedd Pyramid Carstenz, ar ôl y fforiwr Iseldiraidd Jan Carstensz, a'i disgrifiodd yn 1623. Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf yn 1962, gan dîm o ddringwyr oedd yn cynnwys Heinrich Harrer.
Mae'n un o'r Saith Copa, sef copaon uchaf pob cyfandir. Ystyrir ef yn un o'r anoddaf yn dechnegol o'r saith copa i'w ddringo.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Puncak Jaya, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.