Plaid Unoliaethol Ulster

Plaid Unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon yw Plaid Unoliaethol Ulster (Saesneg: Ulster Unionist Party neu UUP).

Plaid Unoliaethol Ulster
ArweinyddRobin Swann MLA
LlywyddMay Steele
CadeiryddThe Lord Empey
Sefydlwyd3 Mawrth 1905
Rhagflaenwyd ganIrish Unionist Alliance
PencadlysStrandtown Hall,
2-4 Belmont Road,
Belfast, County Down,
Gogledd Iwerddon
Asgell yr ifancYoung Unionists
Rhestr o idiolegauUnoliaethwyr Prydeinig
Ceidwadaeth
Gwrth-Ewrop
Sbectrwm gwleidyddolCanol-Dde
Partner rhyngwladolNone
Cysylltiadau EwropeaiddCynghrair Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop
Grŵp yn Senedd EwropCeidwadwyr a Diwygwyr Ewrop
LliwCoch, glas a gwyn
Tŷ'r Cyffredin
0 / 18
Tŷ'r Arflwyddi
2 / 784
Senedd Ewrop
1 / 3
Cynulliad Gogledd Iwerddon
10 / 90
Cynghorau lleol
84 / 462
Gwefan
Gwefan swyddogol

Hanes

Fel rhan o’r cytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r cenedlaetholwyr Gwyddelig yn 1921, cytunwyd i rannu Iwerddon. Daeth 26 o siroedd Iwerddon yn annibynnol yn 1922 fel Gwladwriaeth Rydd Iwerddon, tra parhaodd chwech sir yn y gogledd-ddwyrain (allan o’r naw sir sy’n ffurfio Wlster) yn rhan o'r Deyrnas Unedig gyda senedd ddatganoledig yn Stormont. Daeth Syr James Craig yn Brif Weinidog. O 1929 ymlaen, Plaid Unoliaethol Ulster oedd y brif blaid Unoliaethol, a bu mewn grym am hanner can mlynedd.

Dros y blynyddoedd bu trigolion Catholig Gogledd Iwerddon dan anfanteision o ran cael swyddi, cael tai a materion eraill, gyda Protestaniad yn cael eu ffafrio. Yn y 1960au, ceisiodd y Prif Weinidog Terence O'Neill newid rhywfaint ar y system, ac wedi iddo ef ymddiswyddo, parhawyd hyn gan ei olynydd, James Chichester-Clark, ond gwrthwynebid hyn gan lawer o Unoliaethwyr, megis Ian Paisley.

David Trimble oedd arweinydd y blaid rhwng 1995 a 2005. Roedd ei gefnogaeth i Gytundeb Belffast yn annerbyniol i lawer yn y blaid, a bu ymraniad. Daeth Trimble yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn y llywodraeth a sefydlwyd ar y cyd a'r cenedlaetholwyr dan y cytundeb rhannu grym, ond yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005, collodd yr UUP bump o'i chwe sedd yn San Steffan. Collodd Trimble ei hun ei sedd, ac ymddiswyddodd. Daeth Syr Reg Empey yn arwenydd y blaid yn ei le, ond collodd y blaid ei safle fel y brif blaid Unoliaethol i Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.

Cyfeiriadau

Plaid Unoliaethol Ulster  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Plaid Unoliaethol Ulster  Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

Gogledd IwerddonSaesnegUnoliaethwr

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

25 EbrillLluoswmYr AlmaenEtholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999SuperheldenBlogMagnesiwmTrosiadLlaeth enwynMantraDisgyrchiantTrais rhywiolCaradog PrichardTîm pêl-droed cenedlaethol yr EidalMechanicsville, VirginiaMuskegAlpauPussy RiotArina N. KrasnovaISO 4217GoogleCymraegAnna MarekCemegY MersComin CreuHywel PittsUsenetPeredur ap GwyneddWhere Was I?Alexander I, tsar RwsiaRwsiaGwen Stefani1989Old HenryHwferMons venerisTony ac AlomaBlue Island, IllinoisY rhyngrwydSiôn Blewyn CochCrundaleMawnDiawled CaerdyddLlanfaglan20gHwngariYr EidalCroatiaBetty CampbellLucy ThomasPen-caerOrganau rhywBrominCiLaboratory ConditionsY Weithred (ffilm)Tân yn Llŷn26 EbrillGareth BaleTansanïaRhestr mathau o ddawnsCarnosaurVin DieselCobaltMoscfaSulgwyn1812 yng Nghymru🡆 More