Darnau o dir sy'n cael eu gwarchod i'r genedl ac i'r dyfodol yw parciau cenedlaethol
Parciau Cenedlaethol Cymru: 1. Eryri 2. Arfordir Sir Benfro 3. Bannau Brycheiniog. | |
Enghraifft o'r canlynol | partneriaeth |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1951 |
Yn cynnwys | Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Cenedlaethol Eryri, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Gwladwriaeth | Cymru |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cymru, sy'n 20 y cant o dir Cymru. Mae tri pharc;
Mae ardaloedd gwledig gorau Cymru wedi'u neilltuo'n barciau cenedlaethol neu'n Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'r gyfraith wedi diogelu'r ardaloedd yma er mwyn gwarchod ac ehangu eu prydferthwch naturiol. Ceir tri pharc cenedlaethol yng Nghymru: Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro ac Eryri. Mae 2.9% o boblogaeth Cymru yn byw yma, ond maen nhw'n denu 22 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae gan y tri pharc ddau gyfrifoldeb cyfreithiol:
Wrth wneud hyn mae ganddynt hefyd gyfrifoldeb tuag at y gymuned leol sy'n byw o fewn y parc.
Mae'r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth fel 'Parciau Cenedlaethol Cymru (PCC)', sy'n hyrwyddo pwrpas a diddordebau y tri Pharc. Gwnant hyn drwy 'ddarparu ffyrdd i Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ddod o hyd i faterion sydd o ddiddordeb cyffredin a chytuno ar ddulliau o'u gweithredu.' Rhennir gwybodaeth a phrofiadau rhwng cydweithwyr, gwneuthurwyr polisïau a chymunedau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol ac ymwelwyr i'r ardaloedd hyn.
Mae awgrymiadau wedi bod i wneud ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn bedwerydd o Barciau Cenedlaethol Cymru. Cynigwyd hyn gan Blaid Llafur Cymru yn 2021.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cyfoeth Naturiol Cymru i asesu'r rhagolwg greu Parc cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru yn seiliedig ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Bydd hyn yn cael ei hystyried yn nhymor 2021-26 y Senedd. Dyma yw'r Parc Cenedlaethol cyntaf i gael ei ystyried yng Nghymru ers bron 70 mlynedd.
Cynhelir ddigwyddiadau ymgysylltu ynglyn â photential creu'r parc newydd ym mis Hydref a mis Tachwedd 2023.
Mi fydd cyfnodau ymgynghori cyhoeddus hefyd ym mis Hydref 2024 a 2025 ac mae'n bosib y bydd ffiniau y parc yn cael eu haddasu. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi clustnodi £700,000 y flwyddyn rhwng yn y cyfnod 2022-25 ar gyfer y parc newydd. Y gweinidog materion gwledig, Lesley Griffiths fydd yn gwneud y penderfyniad terfynnol ac mae'r llywodraeth yn bwriadau gallu gwneud hyn cyn Etholiad nesaf Senedd Cymru yn 2026.
Mae'r ardal a gynigwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys yr AHNE i gyd yn pgystal a rhan o ogledd gogledd Powys, Llyn Efyrnwy a rhan o Wynedd sy'n ffinio a pharc Eryri.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Parciau cenedlaethol Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.