Roedd Osroene (a sillafir hefyd yn Osrohene neu Osrhoene) (Syrieg: ܡܠܟܘܬܐ ܕܒܝܬ ܥܣܪܐ ܥܝܢܐ), a adnabyddir yn ogystal dan enw ei phrifddinas, Edessa (Şanlıurfa, Twrci, heddiw), yn deyrnas Assyriaidd a fwynhaodd raddfa sylweddol o ymreolaeth a orffennodd mewn annibyniaeth yn y cyfnod 132 CC i OC 244.
Cyn hynny roedd yn dalaith yn yr Ymerodraeth Rufeinig.
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Edessa |
Sefydlwyd |
|
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Aramaeg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Osroene |
Cyfesurynnau | 37.1583°N 38.7917°E |
Roedd tiriogaeth y deyrnas a'r dalaith ar ran uchaf dyffryn Afon Ewffrates, a daeth yn faes ymgiprys i bwerau mawr Asia Leiaf, Persia, Syria, a'r Armenia hynafol oherwydd ei lleoliad strategol rhwng Asia Leiaf, y Lefant a Mesopotamia.
Daeth yn rhan o ymerodraeth Alecsander Fawr. Ar ôl cwymp Ymerodraeth y Seleuciaid, cafodd ei rhannu rhwng Rhufain a Parthia.
Yn y flwyddyn 201, mabwysiadodd Osroene y Gristnogaeth fel crefydd swyddogol, y wladwriaeth gyntaf yn y byd i wneud hynny.
Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC | |
---|---|
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Osroene, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.