Y fwyaf o ynysoedd Gwlad Groeg (3220 milltir sgwar) ac un o Beriffereiau Groeg yw Creta (Groeg: Κρήτη, Kríti).
Saif yr ynys tua 160 km i'r de o dir mawr Groeg. Roedd y boblogaeth yn 650,000 yn 2005; Heraklion yw'r brifddinas.
Math | ynys, cyrchfan i dwristiaid |
---|---|
Prifddinas | Heraklion |
Poblogaeth | 623,065 |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Môr Aegeaidd |
Sir | Crete Region |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Arwynebedd | 8,335.88 km² |
Uwch y môr | 2,456 metr |
Gerllaw | Y Môr Canoldir, Sea of Crete, Libyan Sea |
Cyfesurynnau | 35.3097°N 24.8933°E |
Hyd | 254 cilometr |
Arian | Ewro |
Creta oedd safle'r gwareiddiad hynaf yn Ewrop, y gwareiddiad Minoaidd, o tua 2600 CC. hyd 1400 CC.. Mae llawr o hanesion am gyfnod cynnar Creta wedi eu trosglwyddo trwy fytholeg Groeg, er enghraifft y chwedlau am y Brenin Minos, Theseus a'r Minotaur; a'r stori am Daedalus ac Icarus.
Concrwyd Creta gan yr Ymerodraeth Rufeinig yn 69 CC., a daeth dinas Gortyn yn brifddinas talaith Rufeinig oedd weithiau'n cynnwys Cyrenaica yn ogystal â Chreta. Yn ddiweddarach cipiwyd yr ynys gan yr Arabiaid yn 824. Adennillwyd Creta i'r Ymerodraeth Fysantaidd gan Nicephorus Phocas yn 960. Yn 1204 meddiannwyd yr ynys gan Fenis yn stod y Bedwaredd Groesgad, a bu yn eu meddiant hwy hyd nes daeth yn rhan o'r Ymerodraeth Ottoman yn 1669.
Ynys fynyddig yw Creta. Y copa uchaf yw Psiloritis neu Fynydd Ida, 2,456 m (8,057 troedfedd) o uchder.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Creta, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.