Openoffice.org

Mae OpenOffice.org (OO.o neu OOo), (a adnabyddir fel arfer fel: OpenOffice) yn deulu o feddalwedd cyfrifiadurol tebyg iawn i Microsoft Office - a ddosberthir am ddim.

Mae'n draws-lwyfanol hefyd ac yn cyd-fynd gyda Fformat OpenDocument (OpenDocument Format (neu ODF)) yr ISO/IEC.

Openoffice.org
Ciplun o'r dudalen dewis a gynigir i ddefnyddiwr mewn fersiwn a oedd ar gael yn Gymraeg.

Hanes a'r Gymraeg

Roedd y teulu hwn o feddalwedd ar gael mewn oddeutu 120 o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg. Y teitl gwreiddiol oedd StarOffice, a ddatblygwyd gan StarDivision ond a werthwyd i Sun Microsystems yn Awst 1999. Cafodd y cod ffynhonnell ei ryddhau yng Ngorffennaf 2000 gyda'r nod o gipio cyfran o farchnad Microsoft Office drwy ei gynnig am ddim i bawb.

Rhyddhawyd y fersiwn Cymraeg ryngwyneb OpenOffice.org 1.1 ym Mehefin 2004, wedi ei gyfieithu gan wirfoddolwyr. Datblygodd yr Uned Technoleg Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor wirydd sillafu Cymraeg ar ei gyfer ar yr un pryd. Yn ddiweddarach, creodd David Chan ategyn oedd yn caniatáu newid y rhyngwyneb o'r Gymraeg i'r Saesneg ac yn ôl drwy gyfrwng botwm ar y rhyngwyneb.

Yn 2010, cafodd Sun Microsystems ei brynu gan Oracle a chafodd OpenOffice.org ei drosglwyddo i'r Apache Software Foundation a'i alw'n Apache OpenOffice. Oherwydd anfodlonrwydd gyda natur trwydded Apache, aeth grŵp o ddatblygwyr OpenOffice.org ati i greu the Document Foundation a pharhau i ddatblygu fersiwn o'r meddalwedd dan enw newydd, LibreOffice. Ni pharhawyd i ddatblygu'r rhyngwyneb Cymraeg o dan Apache OpenOffice. Y fersiwn diwethaf o OpenOffice.org i fod ar gael yn Gymraeg oedd 3.2.1, nôl yn 2010. Mae LibreOffice yn parhau i gael ei ddatblygu gyda rhyngwyneb Cymraeg.

Y gwahanol raglenni cynwysedig

Mae OpenOffice.org yn gasgliad o wahanol raglenni sy'n cydweithio'n agos gyda'i gilydd i ddarparu'r nodweddion sydd i'w cael mewn casgliad arferol o feddalwedd swyddfa:

Modiwl Nodiadau
Openoffice.org  Writer Prosesydd geiriau tebyg i Microsoft Word a WordPerfect. Gall allforio ffeiliau Portable Document Format (PDF), a gall weithio fel golygydd WYSIWYG syml ar gyfer creu a golygu gwefannau.
Openoffice.org  Calc Taenlen tebyg i Microsoft Excel a Lotus 1-2-3. Gall Calc allforio taenlenni i'r fformat PDF.
Openoffice.org  Impress Rhaglen gyflwyno debyg i Microsoft PowerPoint ac Apple Keynote. Gall Impress allforio cyflwyniadau i ffeiliau (SWF) Adobe Flash, gan ganiatáu iddynt gael eu chwarae ar unrhyw gyfrifiadur gyda chwaraeydd Flash. Mae ganddo'r gallu i greu ffeiliau PDF, a'r gallu i ddarllen fformat .ppt Microsoft PowerPoint. Nid oes gan Impress ddewis o batrymluniau parod, ond mae modd lawr lwytho rhai am ddim.
Openoffice.org  Base System rheoli cronfa ddata tebyg i Microsoft Access.
Openoffice.org  Draw Golygydd graffeg fector nid annhebyg i fersiynau cynnar o CorelDRAW a Microsoft Visio. Mae ganddo hefyd nodweddion tebyg i feddalwedd Cyhoeddi pen bwrdd fel Scribus a Microsoft Publisher. Gall allforio i fformat PDF.
Openoffice.org  Math Teclyn ar gyfer creu a golygu fformiwla mathemategol, tebyg i Microsoft Equation Editor. Gellir ei fewnosod tu mewn i ddogfennau OpenOffice eraill. Mae'n cefnogi sawl ffont ac yn gallu allforio o fformat PDF.

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

Tags:

Openoffice.org Hanes ar GymraegOpenoffice.org Dolenni allanolOpenoffice.org CyfeiriadauOpenoffice.orgMeddalwedd cyfrifiadurol

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

DinasFfisegJacob Astley, Barwn Astley o Reading 1afCymdeithasegMartin AmisGershom ScholemDesha County, ArkansasSioux County, NebraskaJulian Cayo-EvansDrew County, ArkansasRandolph County, IndianaWcreinegMetadataSefydliad Cytundeb Gogledd yr IweryddToyotaY Rhyfel Byd CyntafProtestiadau Sgwâr Tiananmen (1989)Douglas County, NebraskaYork County, NebraskaAshland County, OhioGwobr ErasmusLlynConway County, ArkansasMervyn JohnsThessaloníciMaddeuebY Sgism OrllewinolEwropCymraegBoone County, NebraskaAmffibiaidFaulkner County, ArkansasCyhyryn deltaiddPierce County, NebraskaCherry Hill, New JerseyElsie DriggsNeil ArnottColeg Prifysgol LlundainCascading Style SheetsCneuen gocoGeorge LathamDydd Iau CablydAneirinFlavoparmelia caperataRhyfel CoreaMaria Helena Vieira da SilvaBoneddigeiddioTeiffŵn HaiyanPeiriant WaybackMaes awyrJefferson DavisSwffïaethY Cerddor CymreigRobert WagnerMeicro-organebOttawa County, OhioFreedom StrikeFfilm bornograffigErie County, OhioBoeremuziekClefyd AlzheimerGertrude Bacon69 (safle rhyw)Morgan County, OhioGwïon Morris JonesHuron County, OhioSiot dwadIesuEnrique Peña NietoJohn BallingerBaltimore County, Maryland🡆 More