Saif Ogof Coygan (Cyfeiirnod OS: SN28480913) ger Talacharn, Sir Gaerfyrddin.
Carreg galch yw ei gwneuthuriad ac ynddi fe ddarganfuwyd olion dyn Neanderthal yn dyddio nôl hyd at 64,000 o flynyddoedd oed. Darganfuwyd tair bwyell bout coupè o'r cyfnod hwn, sef Hen Oes y Cerrig. Credir fod y dyn Neanderthal wedi cartrefu yn yr ogof yma tan tua 25,000 o flynyddoedd yn ôl. Bu'n lloches i'r udfil (neu'r heiena) am flynyddoedd wedi hynny.
Math | safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.75°N 4.49°W |
Cafwyd hyd i olion nifer o anifeiliaid hefyd gan gynnwys: y rhinoseros gwlanog y mamoth gwlanog, y ceffyl a'r beison - bron i gyd yn dyddio nôl i'r Oes yr Iâ diweddaraf. Gellir gweld rhai o'r ffosiliau hyn yn Amgueddfa Sirol Caerfyrddin. Bu cryn archwilio archaeolegol yma, gyda'r prosiect diwethaf yn yr 1960au cyn i'r lle gael ei ddymchwel gan chwarel gyfagos.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ogof Coygan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.