Sefydliad i hybu'r iaith Lydaweg yw Ofis ar Brezhoneg (Ffrangeg: Office de la langue bretonne.
Fe'i sefydlwyd ar 1 Mai 1999; mae'n cyfateb yn fras i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Enghraifft o'r canlynol | rheoleiddiwr iaith |
---|---|
Daeth i ben | 17 Medi 2010 |
Dechrau/Sefydlu | 1 Mai 1999 |
Olynydd | Ofis Publik ar Brezhoneg |
Ffurf gyfreithiol | association under the French law of 1901 |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Rhanbarth | Karaez-Plougêr |
Ymhlith ei dyletswyddau, mae casglu gwybodaeth am sefyllfa'r iaith Lydaweg, cynghori cymunedau ar arwyddion dwyieithog ac enwau lleoedd a chynorthwyo cwmniau ac eraill sy'n dymuno defnyddio'r iaith. Mae hefyd yn hybu cyrsiau dysgu Llydaweg i oedolion. Mae wedi datblygu'r cynllun Ya d'ar brezhoneg i hyrwyddo'r iaith o fewn busnesi a chymdeithasau, a hefyd o fewn cynghorau lleol.
Mae'n sefydliad annibynnol sy'n cael ei ariannu'n bennaf gan y région Bretagne, ac sydd a'i bencadlys yn Carhaix.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ofis ar Brezhoneg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.