Trydedd ffilm ar ddeg yng nghyfres James Bond yw Octopussy (1983), a'r chweched ffilm i serennu Roger Moore fel yr asiant cudd ffuglennol, James Bond.
Daw teitl y ffilm o stori fer Ian Fleming ym 1966, Octopussy. Fodd bynnag, mae stori'r ffilm yn wreiddiol ac adroddir y stori fer ar ffurf ôl-fflachiad gan y prif ferch Bond, Octopussy. Yn y ffilm, rhaid i Bond ddilyn cadfridog sy'n dwyn gemau a chreiriau o lywodraeth Rwsia. Mae hyn yn ei arwain at dywysog Afghan, Kamal Khan a'i gydymaith, Octopussy. Darganfydda Bond gynllwyn i orfodi Ewrop i ddiarfogi drwy ddefnyddio arf niwclear.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | John Glen |
Cynhyrchydd | Albert R. Broccoli |
Ysgrifennwr | Ian Fleming |
Addaswr | Richard Maibaum George MacDonald Fraser Michael G. Wilson |
Serennu | Roger Moore Maud Adams Louis Jourdan Steven Berkoff Desmond Llewelyn Kristina Wayborn Robert Brown |
Cerddoriaeth | John Barry |
Prif thema | All Time High |
Cyfansoddwr y thema | John Barry Tim Rice |
Perfformiwr y thema | Rita Coolidge |
Sinematograffeg | Alan Hume |
Dylunio | |
Dosbarthydd | MGM/UA Entertainment Co. |
Dyddiad rhyddhau | 6 Mehefin 1983 |
Amser rhedeg | 131 munud |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | $35,000,000 (UDA) |
Refeniw gros | $187,500,000 |
Rhagflaenydd | For Your Eyes Only (1981) |
Olynydd | A View to a Kill (1985) |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Cynhyrchwyd y ffilm gan Albert R. Broccoli a Michael G. Wilson, a rhyddhawyd Octopussy yn yr un flwyddyn a'r ffilm Bond nas dosbarthwyd gan EON sef Never Say Never Again. Cyfarwyddwyd y ffilm gan John Glen.
Rhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:
.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Octopussy, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.