Un o oblastau Rwsia yw Oblast Nizhny Novgorod (Rwseg: Нижегоро́дская о́бласть, Nizhegorodskaya oblast).
Ei chanolfan weinyddol yw dinas Nizhny Novgorod. Poblogaeth: 3,310,597 (Cyfrifiad 2010).
Math | oblast |
---|---|
Prifddinas | Nizhniy Novgorod |
Poblogaeth | 3,176,552 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Gleb Nikitin |
Cylchfa amser | Amser Moscfa, UTC+03:00, Ewrop/Moscfa |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Rwsia Ewropeaidd, Dosbarth Ffederal Volga |
Sir | Rwsia |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 76,900 km² |
Yn ffinio gyda | Oblast Kostroma, Oblast Kirov, Mari El, Chuvash Republic, Mordovia, Oblast Ryazan, Oblast Vladimir, Oblast Ivanovo, Nizhniy Novgorod |
Cyfesurynnau | 56.48°N 44.53°E |
RU-NIZ | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Nizhny Novgorod Oblast |
Pennaeth y Llywodraeth | Gleb Nikitin |
Lleolir Oblast Nizhny Novgorod yn ardal weinyddol Dosbarth Ffederal Volga. Llifa Afon Volga drwy'r oblast. Ar wahân i ardal fetroplitaidd Nizhny Novgorod ei hun, Arzamas yw'r ddinas fwyaf. Mae dinasoedd a threfi eraill yn cynnwys Sarov, lle ceir Mynachlog Serafimo-Diveyevsky, Lyskovo sy'n enwog am ei ffair fawr, Gorodets a Balakhna ar lan Afon Volga.
Ffinia'r oblast gyda Oblast Kostroma (gog.), Oblast Kirov (gog-ddwy.), Gweriniaeth Mari El (dwy.), Gweriniaeth Chuvash (dwy.), Gweriniaeth Mordovia (de), Oblast Ryazan (de-orll.), Oblast Vladimir (gorll.), ac Oblast Ivanovo (gog-orll.).
Sefydlwyd Oblast Nizhny Novgorod ar 5 Rhagfyr 1936.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Oblast Nizhny Novgorod, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.