Canwr, actor a sgïwr Seisnig oedd Noel John Christopher Harrison (29 Ionawr 1934 – 19 Hydref 2013).
Noel Harrison | |
---|---|
Ganwyd | Noel John Christopher Harrison 29 Ionawr 1934 Kensington |
Bu farw | 19 Hydref 2013, 20 Hydref 2013 Ashburton, Dyfnaint |
Label recordio | London Records, Decca Records, Reprise Records, Philips Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr, cerddor, Sgïwr Alpaidd, actor ffilm, artist recordio |
Tad | Rex Harrison |
Mam | Marjorie Thomas |
Priod | Sara Lee Eberts, Margaret Meadows, Lori Chapman |
Plant | Cathryn Harrison, Chloe Harrison, Will Harrison, Simon Harrison, Harriet Harrison |
Chwaraeon |
Ganwyd yn Llundain yn fab i'r actor Rex Harrison. Roedd Noel yn bencampwr slalom fawr Prydain ym 1953 a chystadleuodd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf ym 1952 a 1956. Symudodd i'r Unol Daleithiau ym 1965 a chafodd ei lwyddiant cyntaf gyda'r gân "A Young Girl". Cyd-serenodd gyda Stefanie Powers yn The Girl from U.N.C.L.E. (1966–7), cyfres deledu ysbïo oedd yn spin-off i The Man from U.N.C.L.E..
Ei gân enwocaf yw "The Windmills of Your Mind", oedd yn rhan o drac sain y ffilm The Thomas Crown Affair (1968). Enillodd y gân, a gyfansoddwyd gan Michel Legrand gyda geiriau gan Alan a Marilyn Bergman, y Gân Wreiddiol Orau yn 41ain seremoni Gwobrau'r Academi. ("Talk to the Animals", a ganwyd gan ei dad Rex yn Doctor Dolittle, oedd enillydd y flwyddyn gynt.) Cyrhaeddodd "The Windmills of Your Mind" safle Rhif 8 yn siartiau'r Deyrnas Unedig ym 1969.
Symudodd i fferm yn Nova Scotia ar ddechrau'r 1970au gan geisio byw'n hunangynhaliol, ac yno yng Nghanada cyflwynodd rhaglen gerdd o'r enw Take Time ar gyfer yr CBC. Yn y 1980au dychwelodd i'r byd adloniant gan deithio ar draws yr Unol Daleithiau yn perfformio'i sioe un dyn Adieu Jacques, am fywyd Jacques Brel. Dychwelodd Noel i Loegr yn 2003 ac ymgartrefodd yn Ashburton, Dyfnaint. Bu farw yn 2013 o drawiad ar y galon.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Noel Harrison, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.