Hojatoleslam Sayyid Muqtada al-S(hefyd Moqtada al-Sadr) (Arabeg: مقتدى الصدر Muqtadā al-Sadr) (g.
12 Awst, 1973) yw pedwerydd fab y clerigwr Iracaidd Shia, y Prif Ayatollah Mohammad Mohammad Sadeq al-Sa mab-yng-nghyfraith y Prif Ayatollah Mohammad Baqir As-Sadr. Mae'n un o'r ffigyrau pwysicaf yng ngwleidyddiaeth Irac heddiw gyda milisia fawr dan ei reolaeth.
Muqtada al-Sadr | |
---|---|
Ganwyd | 4 Awst 1974 Najaf |
Man preswyl | Najaf |
Dinasyddiaeth | Irac |
Galwedigaeth | clerig |
Swydd | commanding officer |
Plaid Wleidyddol | Sadrist Movement |
Tad | Mohammad Sadeq al-Sadr |
llofnod | |
O 2004 ymlaen mae wedi rheoli ardal Dinas Syn Baghdad, prifddinas Irac, ac yn bennaeth Byddin y Mahdi, milisia Shia sy'n mwynhau cefnogaeth dactegol Iran, er nad yw dan ei rheolaeth o bell ffordd gan fod al-Sa'i gefnogwyr yn genedlaetholwyr Iracaidd.
Ar ôl sawl brwydr yn erbyn lluoedd yr Americanwyr a'u cyngheiriaid yn Irac (Ebrill, 2004) cafwyd cadoediad ym Mehefin 2004, gyda al-Syn dweud y byddai'n sefyll i lawr ei filisia a chymryd rhan yn y broses wleidyddol. Bu sawl bygwth i arestio al-Sgan Awdurdod Dros Dro y Cynghreiriaid, gan gynnwys cyhoeddi warant yn ei erbyn yn Ebrill 2004 am ei gyfraniad honedig mewn llofruddiaeth ac am gyfnod roedd al-Sar restr "lladd neu ddal" y fyddin Americanaidd. Ond newidiwyd y sefyllfa pan gyhoeddodd al-Sei fwriad o sefyll yn etholiad 2005 yn y wlad.
Poethwyd y sefyllfa eto yn Awst 2004, fodd bynnag, a symudodd lluoedd yr Unol Daleithiau yn erbyn al-Sgyda'r bwriad o'i ladd. Ond methiant fu eu hymgyrch. Yn Hydref 2006, ymddangosodd al-Syn gyhoeddus yng nghwmni arlywydd Irac, Jalal Talabani, gan godi dadleuon ynghylch ei ddylanwad tu ôl i'r llenni yn y llywodraeth newydd a gwylltio elfennau Sunni.
Ar 13 Chwefror, 2007, cyhoeddodd swyddogion Americanaidd fod al-Swedi ffoi i Iran,. Gwadodd llefarwyr ar ran al-Shyn. Gwadu'r adroddiad wnaeth Gweinidog Tramor Iran hefyd.
Mae lleoliad Al-Sar hyn o bryd yn ansicr. Ar 30 Mawrth, adroddwyd fod Sadr, trwy gyfrwng clerigwyr Shia yn siarad ar ei ran, "wedi rhoi araith danbaid ... yn condemnio presenoldeb yr Americanwyr yn Irac ... ac yn galw am brotest mawr yn erbyn y goresgyniad ar April 9...." . Roedd hyn yn arwyddocaol am fod al-Swedi galw ar ei filisia i gadw eu pennau i lawr yn ystod y cyrch Americanaidd newydd yn Baghdad (a ddechreuodd ar 14 Chwefror, 2007), "er mwyn peidio profocio brwydro agored â'r Americanwyr."
Ar 8 Ebrill erfynodd al-Sar fyddin Iraq a'r heddlu i beidio cydweithredu â'r Unol Daleithiau a gorchmynodd ei ryfelwyr i ganolbwyntio ar wthio'r milwyr Americanaidd allan o'r wlad. Cafodd y cyhoeddiad ei dosbarthu yn ninas sanctaidd Najaf ar yr un diwrnod, diwrnod yn unig cyn protest mawr gyda degau o filoedd yn cymryd rhan yno, a alwyd gan al-Sadr, i nodi pedwar blwyddyn er cwymp Baghdad i'r Americanwyr, a ddisgrifir yn y cyhoeddiad fel "arch-elynion" pobl Irac.
Ar 15 Ebrill cyhoeddwyd fod bloc aelodau seneddol Muqtada al-Syn tynnu allan o lywodraeth Irac er mwyn rhoi pwysau ychwanegol ar yr Unol Daleithiau i dynnu ei 140,000 o filwyr allan o'r wlad. Mae Bloc Syn dal chwech gweinidogaeth a chwarter y seddi seneddol yng Nghyngrair Shia y prif weinidog Nouri al-Maliki. Cadarnheuwyd y symudiad ar 16 Ebrill. Er nad yw hyn yn debyg o ddymchwel y llywodraeth bydd yn creu anhawsterau mawr iddi gan ei bod eisoes yn rhanedig iawn. Datganodd llefarydd ar ran y bloc, "Rydym yn cyhoeddi ein bod yn tynnu allan o'r llywodraeth am nad yw'r prif weinidog eisiau paratoi amserlen am dynnu allan y lluoedd estron o Irac."
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Muqtada al-Sadr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.