Mesrop Mashtots: Ieithydd a diwinyddydd a ddyfeisiodd yr wyddor Armenaidd, yn ôl traddodiad, ar ddechrau'r 5g

Mesrop Mashtots (listen (help·info); Armeneg: Մեսրոպ Մաշտոց Mesrop Maštoc'; Armeneg Dwyreiniol: mɛsˈɾop maʃˈtotsʰ; Armeneg Gorllewinnol: mɛsˈɾob maʃˈtotsʰ; 362 – 17 Chwefror 440 OC) yn ieithydd, cyfansoddwr, diwinydd, gwladweinydd ac emynydd yn yr Ymerodraeth Sassanaidd o'r Oesoedd Canol Cynnar.

Mae'n cael ei barchu fel sant yn yr Eglwys Apostolaidd Armenia, yr Eglwys Gatholig Armenia, yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol ac eglwysi Catholig. Mae'n fwyaf adnabyddus am ddyfeisio'r wyddor Armeniaidd c. 405 OC, a oedd yn gam sylfaenol i gryfhau hunaniaeth genedlaethol Armenia. Ystyrir ef hefyd fel crëwr yr wyddor Albaneg a wyddor Sioraidd Cawcasws gan nifer o ysgolheigion.

Mesrop Mashtots
Mesrop Mashtots: Bywyd, Yr Wyddor, Anrhydeddau
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata
CrefyddEglwys apostolaidd armenia edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mesrop Mashtots: Bywyd, Yr Wyddor, Anrhydeddau
Mesrop mewn llawysgrif o 1776
Mesrop Mashtots: Bywyd, Yr Wyddor, Anrhydeddau
Mesrop Mashtots yn creu'r wyddor fel rhan o ddarlin 'Apollo a'r Cyfandiroedd' (Asia, grŵp obelisk) gan Giovanni Battista Tiepolo, 1752-53
Mesrop Mashtots: Bywyd, Yr Wyddor, Anrhydeddau
Mynachlog Amaras yn Nagorno-Karabakh lle yn y 5g sefydlodd Mesrob Mashtots, yr ysgol Armeneg gyntaf erioed a ddefnyddiodd ei wyddor. Sefydlwyd y fynachlog yn y 4g gan Sant Gregori y Goleuydd, a fedyddiodd Teyrnas Armenia y genedl Cristnogol cyntaf y byd yn 301 OC
Mesrop Mashtots: Bywyd, Yr Wyddor, Anrhydeddau
Yr wyddor Armenaidd

Bywyd

Fe'i ganed mewn teulu bonheddig ("o dŷ azat" yn ôl Anania Shirakatsi) yn anheddiad Hatsekats yn Taron (a nodwyd fel pentref Hatsik yng ngwastadedd Mush), a bu farw yn Vagharshapat. Roedd yn fab i ddyn o'r enw Vardan. Dywed Koryun, ei ddisgybl a chofiannydd, wrthym fod Mashtots (nid yw'n sôn am yr enw Mesrop yn ei waith) wedi derbyn addysg dda a'i fod yn hyddysg yn yr ieithoedd Groeg a Pherseg. Oherwydd ei dduwioldeb a'i ddysg, penodwyd Mesrop yn ysgrifennydd i'r Brenin Khosrov IV, i fod â gofal am ysgrifennu archddyfarniadau a golygiadau brenhinol mewn Perseg a Groeg.

Collodd Armenia ei hannibyniaeth yn 387 ac fe'i rhannwyd rhwng yr Ymerodraeth Fysantaidd a Phersia, a gafodd tua phedair rhan o bump o'i thiriogaeth. Roedd Gorllewin Armenia yn cael ei lywodraethu gan gadfridogion Bysantaidd, tra bod brenin Armenia yn rheoli fel fasal Persia dros ddwyrain Armenia. Prif ddigwyddiadau'r cyfnod hwn yw dyfeisio'r wyddor Armenia, adolygu'r litwrgi, creu llenyddiaeth eglwysig a chenedlaethol, ac adolygu cysylltiadau hierarchaidd. Mae tri dyn yn amlwg yn gysylltiedig â'r gwaith hwn: Mesrop, Catholicos Isaac (Sahak Part'ev ), a'r Brenin Vramshapuh , a olynodd ei frawd Khosrov IV yn 389.

Wedi hyfforddiant Helenistaidd (Groegaidd) yn Antiochia a chyfnod fel milwr yng ngwasanaeth y brenin Armenaidd yn Vagharshapat, daeth Mesrop yn fynach ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 392. Gan nad oedd Beibl ar gael yn Armeneg ac nad oedd yr iaith Armeneg wedi bod yn iaith ysgrifenedig hyd hynny, dechreuodd Mesrop, gyda chymorth ysgolheigion eglwysig eraill, ddatblygu wyddor 36 llythyren ar gyfer yr iaith Armeneg, a oedd yn rhannol seiliedig ar yr wyddor Roeg. Yn ddiweddarach cyfieithodd rannau o’r Beibl o destunau Syrieg i’w wyddor Armenia ynghyd â’r Catholicos Sahak (387–439) ac eraill.

Yn 394, gyda bendith y Catholicos Sahak Partev, cychwynnodd Mesrop ar genhadaeth i ddenu pobl i'r ffydd Gristnogol. Gyda chefnogaeth y Tywysog Shampith, pregethodd yr Efengyl yn ardal Goghtn ger yr afon Araxes, gan achosi i nifer gael tröedigaeth.

Nid oedd gan Armeniaid yr un wyddor eu hunain, ac yn hytrach defnyddient ysgrifau Groeg, Persaidd, a Syrieg, nad oedd yr un ohonynt yn addas iawn ar gyfer cynrychioli seiniau cymhleth niferus eu hiaith frodorol. Roedd yr Ysgrythurau Sanctaidd a'r litwrgi, i raddau helaeth, yn annealladwy i'r ffyddloniaid ac yn gofyn am ymyrraeth cyfieithwyr a dehonglwyr.

Cynorthwywyd Mesrop i ddyfeisio wyddor genedlaethol gan Catholicos Sahak a Brenin Vramshapuh. Ymgynghorodd â Daniel, esgob Mesopotamia, a Rufinus, mynach o Samosata, ar y mater, a lluniodd wyddor o 36 llythyren; ychwanegwyd dwy arall (O hir (Օ, օ) ac F (Ֆ, ֆ)) yn y 12g.

Y frawddeg gyntaf yn Armeneg a ysgrifennwyd gan St. Mesrop ar ôl iddo ddyfeisio'r llythyrau oedd llinell agoriadol Llyfr Diarhebion Solomon:

Ճանաչել զիմաստութիւն եւ զխրատ, իմանալ զբանս հանճարոյ:
Čanačʿel zimastutʿiwn ew zxrat, imanal zbans hančaroy.
«I wybod doethineb a chyfarwyddyd; i ganfod geiriau deall.»

Llyfr y Diarhebion, 1:2.

Cwblhawyd y Beibl Armeneg cyntaf yn 435, a chyfieithiadau ychwanegol o'r Groeg yn dilyn. Chwaraeodd ran allweddol hefyd yn y gwaith cenhadol yn Armenia.

Ysgrifennodd ei fyfyriwr, Koriun, gofiant hagiograffyddol o Mesrop.

Yr Wyddor

Yr oedd yr wyddor Armenaidd yn wreiddiol yn cynnwys 36 llythyren, 7 ohonynt yn llafariaid, a 29 yn gytseiniaid. Ym mhresenoldeb dwsinau o dafodieithoedd, penderfynodd Mashtots normau ffonetig ar gyfer iaith lenyddol gyffredin, dewisodd un o'r mathau o ysgrifennu, yn enwedig o'r chwith i'r dde (fel mewn Groeg), ac nid o'r dde i'r chwith (fel yn Assyrieg). Penderfynodd ar normau orgraff yr iaith lenyddol Armenia hynafol.

Anrhydeddau

Mae beddrod Mesrop yn cael ei barchu yn yr eglwys a enwyd ar ei ôl ym mhentref Oshakan (tua 15 cilomedr i'r gogledd-orllewin o Yerevan). Mae 36 khachcars modern ar dir yr eglwys, pob un wedi'i gynllunio ar ôl llythyren o'r wyddor.

Yng nghanol tref Yerevan mae ei gofeb ar Matenadaran. Cyhoeddwyd stampiau post er anrhydedd Mesrop yn yr Undeb Sofietaidd ac Armenia annibynnol. Gorchymyn a sefydlwyd yn Armenia ar 26 Gorffennaf, 1993 yw Urdd Sant Mesrop Maschtoz.

Cofiadu

Ceir ffyrdd neu rhodfeydd wedi einw ar ôl Mashtots ym mron pob un tref o sylwedd yn Armenia.

Rhyddhawyd ffilm "Mesrop Mashtots" yn 1988 gan Armenfilm gan y cyfarwyddwr Levon Mkrtchyan.

Yn 1993 crewyd 'Urdd Sant Mesrop Mashtots' gan Weriniaeth annibynnol newydd Armenia.

'Mesrop Mashtots' oedd enw'r awyren Airbus A320 gan gwmni hedfan Armavia, a fu mewn damwain yn 2006.

Oriel

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Mesrop Mashtots: Bywyd, Yr Wyddor, Anrhydeddau  Eginyn erthygl sydd uchod am Armenia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Mesrop Mashtots: Bywyd, Yr Wyddor, Anrhydeddau 
Comin Wiki
Mae gan Gomin Wiki
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Tags:

Mesrop Mashtots BywydMesrop Mashtots Yr WyddorMesrop Mashtots AnrhydeddauMesrop Mashtots CofiaduMesrop Mashtots OrielMesrop Mashtots CyfeiriadauMesrop Mashtots Dolenni allanolMesrop Mashtots17 Chwefror362440ArmenegArmeniaAudio Mesrop Mashtots.oggCyfansoddwrDelwedd:Audio Mesrop Mashtots.oggDiwinyddiaethEglwys Apostolaidd ArmeniaEmynyddGwladweinyddIeithyddiaethOCOesoedd Canol CynnarSantWicipedia:CymorthYmerodraeth SassanaiddYnghylch y sain ymaYr Eglwys Gatholig RufeinigYr Eglwys Uniongred DdwyreiniolYr wyddor ArmenaiddYr wyddor Sioraidd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

SussexIrene González HernándezUsenetDinasYsgol Rhyd y LlanMahanaVitoria-GasteizAnnibyniaethBasauriHen wraigHentai KamenSlumdog MillionaireOcsitaniaBrenhiniaeth gyfansoddiadolAfon YstwythSwleiman IDonald Watts DaviesIwan LlwydWicipedia CymraegEBayXxyAngharad MairIKEAAdolf HitlerJohnny DeppCharles BradlaughCalsugno2020auKurganMatilda BrowneSiôr II, brenin Prydain FawrOriel Gelf GenedlaetholStuart SchellerBlaenafonCodiadRobin Llwyd ab OwainCarles PuigdemontSeliwlosGemau Olympaidd y Gaeaf 2022Malavita – The FamilyEwcaryotIeithoedd BrythonaiddColmán mac LénéniSafleoedd rhywPidynGwainInternational Standard Name IdentifierJohn F. KennedySwydd Amwythig1980RhifyddegTwristiaeth yng NghymruWhatsAppBannau BrycheiniogCapreseFamily BloodLast Hitman – 24 Stunden in der HölleAlan Bates (is-bostfeistr)Support Your Local Sheriff!Morgan Owen (bardd a llenor)FfenolegBlodeuglwm1792Mal LloydLaboratory ConditionsBugbrookeMorlo Ysgithrog23 MehefinHTTP🡆 More