Roedd Matthew Lewis Vaughan-Davies, Barwn 1 af Ystwyth, (17 Rhagfyr, 1840 – 21 Awst, 1935 yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth Ceredigion rhwng 1895 a 1921.
Matthew Vaughan-Davies, Barwn 1af Ystwyth | |
---|---|
Ganwyd | 17 Rhagfyr 1840 Plas Tanybwlch |
Bu farw | 21 Awst 1935 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Matthew Davies |
Mam | Emma Davies |
Priod | Mary Powell |
Ganwyd Vaughan-Davies yn Nhanybwlch, Ceredigion, yn fab i Matthew Davies, ac Emma (née Davies) ei wraig. Prin oedd ei fanteision addysg, methiant bu ei unig gyfnod o addysg ffurfiol, sef blwyddyn yn Harrow. Cafodd ei ddisgrifio fel ill-educated, uncultured, ill-informed .
Yn di briod hyd ei fod yn 48 mlwydd oed honnir ei fod wedi cael nifer o berthnasau all briodasol. Ym mysg ei gariadon honedig bu Mrs Powell, Nanteos, a oedd yn nodi bod ei gŵr oddi cartref trwy chwifio lliain gwely o bolyn baner Nanteos a Gladys Ashton o Welston Court Sir Benfro.
Roedd Davies yn dirfeddiannwr, ac yn feistr yr helfa. Gwasanaethodd fel ynad heddwch ar gyfer Ceredigion a chadeirydd mainc ynadon Llanilar. Bu'n uchel siryf Ceredigion ym 1875 ac yn ddirprwy rhaglaw'r sir. Roedd yn aelod o Fwrdd gwarcheidwad y Tlodion Aberystwyth a Bwrdd Glanweithdra Aberystwyth Wledig. Roedd yn is gapten er anrhydedd ar Filisia Ceredigion, Brycheiniog a Maesyfed.
Fel y mwyafrif o fan bonheddwyr gwledig Cymru'r cyfnod roedd Davies yn Dori rhonc. Safodd fel yr ymgeisydd Ceidwadol yn etholiad cyffredinol 1885 gan golli'n drwm i David Davies, Llandinam yr ymgeisydd Rhyddfrydol. Safodd fel ymgeisydd Ceidwadol aflwyddiannus eto ym 1889, i geisio sedd Llanfarian yn yr etholiad cyntaf i Gyngor Sir Ceredigion.
Er ei fod yn sgweier ag ystâd o 3,674 erw roedd o'n weddol dlawd, dim ond £974 y flwyddyn oedd incwm rent yr ystâd. Ym 1889 priododd Mary Jenkins, gweddw gefnog o Abertawe a thrwy'r briodas daeth newid mawr er gwell i'w sefyllfa ariannol . Roedd Mary Jenkins yn ffeminist, yn swffragét ac yn gefnogwr blaenllaw i'r Blaid Ryddfrydol. I ennill ei chalon ac, yn bwysicach byth ei phwrs, bu'n rhaid i Vaughan-Davies newid ei liwiau gwleidyddol.
Yn etholiad cyffredinol 1892, rhoddodd Vaughan-Davies ei gefnogaeth i'r Aelod Seneddol Rhyddfrydol William Bowen Rowlands. Pan roddodd Rowlands wybod i'r gymdeithas Ryddfrydol ei fod yn bwriadu sefyll i lawr o'i sedd daeth yn hysbys yn fuan fod gan Vaughan-Davies ddiddordeb yn yr enwebiad Rhyddfrydol. Gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan ffigurau blaenllaw yn y Gymdeithas Ryddfrydol leol, megis y masnachwr o Aberaeron J.M. Howell a oedd yn amau ymrwymiad Davies i bolisïau Rhyddfrydol. Amheuaeth a chafodd ei brofi'n gywir yn ddiweddarach gan dystiolaeth am ei ymddygiad tuag at denantiaid ar ei ystâd a roddwyd ger bron ymchwiliad gan Gomisiwn Tir Cymru ar y berthynas rhwng tirfeddianwyr a'u tenantiaid.
Llwyddodd Vaughan-Davies i ennill yr enwebiad er gwaethaf ei wrthwynebwyr. Roedd Cymdeithas Ryddfrydol Ceredigion mewn trafferthion ariannol cyn i Vaughan-Davies, a'i gyfoeth trwy briodas, cael ei ethol yn drysorydd y gangen. Dyma yn ôl John Gibson golygydd radical y Cambrian News oedd y rheswm dros ei ddewis - rhoi'r geiniog uwchlaw egwyddor. Mae'r Athro Kenneth O. Morgan yn awgrymu bod y rheswm yn fwy cymhleth a'i bod o wedi derbyn cefnogaeth Rhyddfrydwyr gwledig y sir oedd yn teimlo'n chwerw tuag at ddosbarth canol proffesiynol trefol llefydd fel Aberystwyth a oedd yn ddechrau cael goruchafiaeth yn y Blaid Ryddfrydol.
Enillodd Vaughan-Davies y sedd dros y Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol 1895 a chadwodd ei le hyd iddo gael ei ddyrchafu i'r bendefigaeth fel Barwn Cyntaf Ystwyth ym 1921.
Bu farw'r Arglwydd Ystwyth yn 94 mlwydd oed. Gan na fu iddo blant, bu farw ei deitl gyda fo.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Bowen Rowlands | Aelod Seneddol | Olynydd: Ernest Evans |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Matthew Vaughan-Davies, Barwn 1af Ystwyth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.