Newyddiadurwraig ac awdures Ffilipinaidd-Americanaidd yw Maria Angelita Ressa (Tagalog: ; ganwyd Maria Angelita Delfin Aycardo, 2 Hydref 1963).
Mae hi'n cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Rappler, Derbynnydd Ffilipinaidd cyntaf Gwobr Heddwch Nobel oedd hi.
Maria Ressa | |
---|---|
Ganwyd | María Angelita Delfín Aycardo 2 Hydref 1963 Manila |
Dinasyddiaeth | Y Philipinau UDA |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, golygydd cyfrannog, academydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | World Association of Newspapers' Golden Pen of Freedom Award, Gwobr 100 Merch y BBC, Ysgoloriaethau Fulbright, Gwobr y Pedwar Rhyddid - Rhyddid Mynegiant, Gwobr Heddwch Nobel, Gwobr UNESCO/Guillermo Cano - Rhyddid Gweisg y Byd, Gwobr Kurt Tucholsky, Asia's Most Influential Philippines |
Gwefan | https://mariaressa.com/ |
Cafodd Ressa ei geni ym Manila, yn ferch Phil Sunico Aycardo, Ffilipinaidd Tsieineaidd. Collodd ei tad pan oedd yn flwydd oed. Tyfodd i fyny yn siarad Ffilipinaidd yn unig ac astudiodd yng Ngholeg St. Scholastica ym Manila. Wedyn, symudodd ei mam Hermelina i'r Unol Daleithiau, gan adael Ressa a'i chwaer gyda theulu eu tad. Priododd ei mam ddyn Eidalaidd-Americanaidd o'r enw Peter Ames Ressa a daeth â'i dau blentyn i New Jersey, Unol Daleithiau America pan oedd Ressa yn ddeg oed. Symudodd ei rhieni wedyn i Toms River, New Jersey, lle aeth i Ysgol Uwchradd Gogledd Toms River. Roedd yn rhaid i Ressa ddysgu'r iaith Saesneg. Treuliodd bron i ddau ddegawd yn gweithio fel gohebydd ymchwiliol arweiniol yn Ne-ddwyrain Asia ar gyfer CNN .
Sefydlodd Ressa wefan newyddion ar-lein Rappler fel tudalen Facebook o'r enw MovePH ym mis Awst 2011, ynghyd â thair sylfaenydd benywaidd arall. Dechreuodd i ddechrau gan esblygu i fod yn wefan gyflawn ar 1 Ionawr 2012. Derbynodd nifer o wobrau lleol a rhyngwladol.
Ar 8 Hydref 2021, cyhoeddwyd Ressa yn swyddogol fel derbynnydd Gwobr Heddwch Nobel 2021 ochr yn ochr â Dmitry Muratov o Ffederasiwn Rwsia .
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Maria Ressa, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.