Gwleidydd a chadfridog Rhufeinig oedd Marcus Antonius (c.
14 Ionawr 83 CC- 1 Awst 30 CC). Fel Mark Antony, mae'n gymeriad pwysig yn nramâu William Shakespeare.
Marcus Antonius | |
---|---|
Ganwyd | 83 CC Rhufain |
Bu farw | 30 CC Alexandria |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig |
Swydd | tribune of the plebs, Magister equitum, proconsul, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, triumvir rei publicae constituendae, Conswl Rhufeinig, brenin cydweddog |
Tad | Marcus Antonius |
Mam | Julia |
Priod | Fadia, Antonia Hybrida Minor, Fulvia, Octavia Yr Ieuengaf, Cleopatra |
Partner | Volumnia Cytheris, Glaphyra |
Plant | Antonia, Marcus Antonius Antyllus, Iullus Antonius, Cleopatra Selene II, Alexander Helios, Antonia Major, Antonia Minor, Ptolemi Philadelphws |
Ganed ef yn Rhufain, yn fab i Marcus Antonius Creticus. Dywedir iddo fyw'n wyllt yn ei ieuengctid, ac yn ôl Plutarch roedd mewn dyled o 250 talent (gwerth rhai miliynau o bunnau) cyn bod yn ugain oed. Bu raid iddo ffoi i Wlad Groeg, lle bu'n astudio rhethreg. Dangosodd ei fod yn arweinydd milwrol galluog mewn ymgyrch yn erbyn Aristobulus yn Iudaea, ac yna o 54 CC fel cynorthwydd i Iŵl Cesar yn ei ymgyrch i goncro Gâl. Daeth yn un o gefnogwyr amlycaf Cesar, a bu'n ddirpwy iddo yn ystod y rhyfel cartref a ddechreuodd wedi i Gesar groesi Afon Rubicon. Wedi i Gesar gymeryd meddiant o Rufain, parhaodd Antonius fel ei ddirprwy. Cyhoeddodd Cicero gyfres o ymosodiadau deifiol arno yn y Philippicau.
Ar 15 Chwefror 44 CC, yn ystod gŵyl y Lupercalia, cynigiodd Antonius goron i Cesar yn gyhoeddus. Gwrthododd Cesar y cynnig, gan ddangos nad oedd yn bwriadu dod yn frenin. Fis yn ddiweddarach, llofruddiwyd Cesar, a cyn hir bu rhyfel cartref eto, gyda Marcus Antonius yn arwain pleidwyr Cesar yn erbyn y gweriniaethwyr oedd wedi bod a rhan yn ei lofruddio. Yn 42 CC, ymladdwyd Brwydr Philippi rhwng Antonius ac Octavianus a dau o lofruddion Cesarn Gaius Cassius Longinus a Marcus Junius Brutus. Mewn gwirionedd roedd dwy frwydr, gyda thair wythnos rhyngddynt. Ym Mrwydr Gyntaf Philippi ar 3 Hydref, 42 CC, llwyddodd Brutus i orchfygu byddin Octavianus, ond gorchfygwyd byddin Cassius gan Marcus Antonius. Gan gredu fod Brutus hefyd wedi colli'r dydd, lladdodd Cassius ei hun. Ymladdwyd Ail Frwydr Philippi ar 23 Hydref, a gorchfygwyd Brutus gan Antonius ac Octavianus. Lladdodd Brutus ei hun, ac wedi clywed y newyddion, lladdodd ei wraig Porcia ei hun hefyd.
Ffurfiodd Antonius bartneriaeth ag Octavianus ("Augustus" yn ddiweddarach) a Marcus Aemilius Lepidus. Gofynnodd Antonius am gymorth gan Cleopatra, brenhines yr Aifft, ond gwrthododd hi ymyrryd. Teithiodd Antonius i'r Aifft i'w chyfarfod yn 41 CC, a syrthiodd y ddau mewn cariad. Penderfynodd Antonius aros yn yr Aifft am gyfnod, nes iddo gael ei orfodi i ddychwelyd i Rufain. Yn fuan wedyn ganwyd dau efaill iddo ef a Cleopatra, Cleopatra Selene ac Alecsander Helios. Yn 36 CC teithiodd Antonius i'r dwyrain i ymladd yn erbyn y Parthiaid. Aeth Cleopatra gydag ef, a ganwyd eu trydydd plentyn, Ptolemi Filadelfos. Bu'r ymgyrch yn llwyddiant mawr, a dychwelodd y ddau i Alexandria.
Roedd perthynas Antonius gydag Octavianus (a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach dan yr enw Augustus), ei frawd-yng-nghyfraith, wedi dirywio erbyn hyn. Yn 33 CC, daeth diwedd ar y bartneriaeth rhyngddynt. Yn 32 CC aeth yn rhyfel rhwng Octavianus ac Antonius a Cleopatra. Ym Mrwydr Actium yn 31 CC gorchfygwyd llynges Antonius a Cleopatra gan lynghesydd Octavianus, Marcus Vipsanius Agrippa, a lladdodd Antonius ei hun. Ychydig yn ddiweddarach, lladdodd Cleopatra ei hun hefyd.
Fel "Mark Antony", mae Antonius yn un o'r prif gymeriadau mewn dwy o ddramâu Shakespeare, Julius Caesar ac Antony and Cleopatra. Yn y ffilm "Cleopatra", cymerwyd rhan Antonius gan Richard Burton, gydag Elizabeth Taylor fel Cleopatra.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Marcus Antonius, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.