Prifddinas y Maldives yw Malé.
Saif y ddinas ar ynys Malé, ac roedd y boblogaeth yn y cyfrifiad diwethaf yn 133,019 (2014).
Math | dinas, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, prifddinas, dinas fawr, y ddinas fwyaf |
---|---|
Poblogaeth | 133,019 |
Cylchfa amser | UTC+05:00 |
Gefeilldref/i | Colombo, Kaohsiung, Dinas Jibwti |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Kaafu Atoll |
Sir | Kaafu Atoll |
Gwlad | Maldives |
Arwynebedd | 5.8 km² |
Uwch y môr | 2 metr |
Gerllaw | Cefnfor India |
Cyfesurynnau | 4.175°N 73.5083°E |
MV-MLE | |
Gan nad yw ynys Malé ond 1.7 km o hyd ac 1 km o led, mae'r ddinas yn gorchuddio'r ynys i gyd. Dayblygodd y ddinas wedi i'r Maldives droi at Islam yn y 12g. Yr yr 20g, wedi i'r wlad ddod yn weriniaeth, ail-adeiladwyd y ddinas yn sylweddol dan yr Arlywydd Ibrahim Nasir; chwalwyd muriau'r ddinas a'r palas brenhinol, ac ychwanegwyd at arwynebedd yr ynys. Dinistriwyd rhan helaeth o'r ddinas ar 26 Rhagfyr 2004 gan Tsunami Cefnfor India 2004.
Adeilad pwysicaf y ddinas yw Mosg Dydd Gwener. Ni cheir adeiladu unrhyw adeilad ym Malé yn uwch na'r mosg yma.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Malé, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.