Cenhades Gymreig oedd Mair Davies (1935 – 20 Awst 2009) a dreuliodd rhan helaeth o'i bywyd yn gweithio yn Nhrelew, Patagonia, yr Ariannin.
Cawsai ei hadnabod weithiau fel Miss Mair. Yn 2010, cyhoeddwyd y llyfr "Hyd Eithaf y Ddaear" sy'n sôn am ei hatgofion a theyrngedau a wnaed iddi ar ôl ei marwolaeth.
Mair Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1935 |
Bu farw | 20 Awst 2009 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cenhadwr |
Cafodd ei geni ar fferm Bercoed Ganol ym Mhentre Cwrt, ger Llandysul yn un o wyth o blant. Ar y 23 Tachwedd, 1963, pan yn 28 oed, aeth i Batagonia fel cenhades gyda'r Methodistiaid. Aeth i Bariloche yn yr Andes i ddysgu Sbaeneg er mwyn medru cyfathrebu â'r trigolion lleol y byddai'n gweithio â hwy. Pan ddaeth ei chytundeb i ben, arhosodd Mair Davies yn y Wladfa er mwyn cynorthwyo gyda'r capeli Cymraeg. Davies oedd yr unig gweinidog a oedd yn pregethu trwy gyfrwng y Gymraeg, ar wahan i ambell bregethwr a oedd yn ymweld â'r Wladfa.
Agorodd siop lyfrau Cristnogol yn Nhrelew ym 1974 ac ail siop yn Comodoro. Yn hwyrach, caeodd y siop honno gan agor siop arall ym Mhorth Madryn a oedd dipyn yn agosach yn ddaearyddol.
Bu farw ar 20 Awst, 2009 yn Nhrelew ac fe'i claddwyd ym mynwent y Gaiman.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mair Davies (cenhades), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.