Môr sy'n rhan o'r Cefnfor Tawel yw Môr Okhotsk neu Môr Ochotsk (Rwseg:Охо́тское мо́ре; Okhotskoye More).
Saif yn rhan orllewinol u Cefnfor Tawel, rhwng Gorynys Kamchatka yn y dwyrain, Ynysoedd Kuril yn y de-ddwyrain, ynys Hokkaidō yn y de, ynys Sakhalin yn y gorllewin a Siberia yn y gogledd.
Math | môr ymylon |
---|---|
Enwyd ar ôl | Okhotsk |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Cefnfor Tawel |
Gwlad | Rwsia, Japan |
Arwynebedd | 1,583,000 ±1 km² |
Cyfesurynnau | 55°N 150°E |
Caiff y môr ei enw o ddinas Okhotsk, y sefydliad Rwsaidd cyntaf yn Nwyrain Pell Rwsia. Mae ganddo arwynebedd o 1,583,000 km2, ac mae'n cyrraedd dyfnder o 3,372 medr yn ei fan dyfnaf. Ceir llawer i rew yma yn y gaeaf, oherwydd y dŵr croyw sy'n llifo i mewn iddo o afon Amur.
Ar dir mawr Rwsia mae ardal Oblast Magadan yn gorwedd ar ran ogledd-orllewinol y Môr ac mae pysgota yn ddiwydiant rhanbarthol mawr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Môr Okhotsk, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.