Roedd Louis Dduwiol (Mehefin/Awst 778 - 23 Mehefin 840) yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig a brenin Aquitania.
Louis Dduwiol | |
---|---|
Ganwyd | 16 Ebrill 778, 20 Ebrill 778, Medi 778 Chasseneuil-du-Poitou |
Bu farw | 20 Mehefin 840, 24 Mehefin 840 Ingelheim am Rhein |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth y Carolingiaid |
Galwedigaeth | teyrn, brenin neu frenhines |
Swydd | dug Bafaria, brenin y Ffranciaid, Carolingian Roman emperor |
Tad | Siarlymaen |
Mam | Hildegard |
Priod | Ermengarde of Hesbaye, Judith of Bavaria |
Partner | Theudelinde de Sens |
Plant | Lothair I, Louis yr Almaenwr, Gisela, Siarl Foel, Arnulf of Sens, Rotrude, Bertha, Hildegard, princess of Francia, Pepin I of Aquitaine, Alpais, Adelaide d'Aquitaine, Hildegarde |
Llinach | Y Carolingiaid |
Louis oedd trydydd mab Siarlymaen, a bwriad gwreiddiol y tad oedd rhannu'r ymerodraeth rhyngddynt. Fodd bynnag gwrthryfelodd un mab yn erbyn ei dad, a bu'r ddau arall farw o flaen Siarlymaen, felly etifeddodd Louis yr ymerodraeth i gyd. Bu ganddo bedwar mab a nifer o ferched. O'i wraig gyntaf, Ermenganda de Hesbay, cafodd dri mab, Lothair I a ddaeth yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Louis yr Almaenwr a Pipin o Aquitania. O'i ail wraig, Judith, merch Welf, cafodd fab arall, Siarl Foel.
Yn wreiddiol bwriadai Louis rannu'r ymerodraeth rhwng y tri mab hynaf, ond yn nes ymlaen dymunai ychwanegu'r pedwerydd. Gwrthryfelodd y meibion hynaf yn erbyn eu tad, a buont yn ymladd am eu cyfran o'r ymerodraeth. Bu farw Pipin o Aquitania yn 838, ac yn ddiweddarach diweddwyd y brwydro rhwng y tri arall gan Gytundeb Verdun.
Rhagflaenydd: Siarl I (Siarlymaen) | Ymerawdwr Glân Rhufeinig 814 – 840 | Olynydd: Lothair I |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Louis Dduwiol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.