Llyfr Eseciel yw'r 26ain llyfr yn yr Hen Destament.
Yn ôl traddodiad cafodd ei ysgrifennu gan y proffwyd Eseciel yn y 6ed ganrif CC mewn alltudiaeth ym Mabilon. Ei dalfyriad arferol yw 'Esec.'
Llyfr sy'n llawn o broffwydoliaethau a gweledigaethau rhyfeddol yw Llyfr Eseciel. Mae tair o weledigaethau Eseciel wedi cael dylanwad mawr ar gelfyddydd ac eiconiaeth Gristnogol. Y gyntaf yw'r pedair anghenfil ryfeddol, y Tetramorphiaid, sydd o gwmpas gorsedd Duw ac sy'n fod i symboleiddio'r pedwar Efengylydd (Esec. 1:10). Yr ail yw'r esgyrn sych yn y dyffryn sy'n cael ei gorchuddio â chig eto a'i adfywio; mae rhai yn credu bod hyn yn rhagweld atgyfodiad y meirw ar Ddydd y Farn (Esec. 37:1-14). Mae'r drydedd yn weledigaeth enwog o bedwar creadur asgellog yn dwyn olwynion, a fu'n ysbrydoliaeth i borteadau o'r angylion (Esec. 1:4-11).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llyfr Eseciel, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.