Amffibiad sy'n byw rhan o'i amser mewn dŵr yw'r broga (neu lyffant melyn, llyffant cyffredin), ac fe'i ceir ar draws y rhan fwyaf o Ewrop.
Broga/Llyffant melyn | |
---|---|
Broga yn Ynys Hir, Ceredigion | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Anura |
Teulu: | Ranidae |
Genws: | Rana |
Rhywogaeth: | R. temporaria |
Enw deuenwol | |
Rana temporaria Linnaeus, 1758 | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Mae'n wyrdd, brown neu felyn gyda chroen llyfn. Mae'n bwydo ar bryfed, abwyd a gwlithod. Mae'n dodwy hyd at 4,000 o wyau (a elwir yn grifft) mewn pyllau dŵr croyw, bychain.
Y man gorllewinol pellaf lle'i ceir yw Iwerddon; yn y gogledd: y gwledydd Sgandinafia, ac i'r dwyrain, fe'i gwelir ym Mynyddoedd yr Wral. Nid yw i'w gael ym Mhenrhyn Iberia, fodd bynnag, nac yn ne'r Eidal na de'r Balcanau. Mae hefyd i'w gael yn Asia - mor bell i'r dwyrain a Japan.
Mae'r llyffant melyn yn trawsffurfio drwy dair cyfnod pendant: y penbwl (larfa) dyfrol ac yna'r llencyndod (ar dir) ac yn y diwedd y ffurf lawn dwf (dŵr a thir). Mae ganddo gorff tew, gyda ffroenau crwn, traed gweog a choesau-ôl hir a esblygodd dros amser i nofio mewn dŵr a sboncian ar dir. Fe'i cymysgir yn aml gyda'r Llyffant dafadennog (Bufo bufo), ond mae'n hawdd gwahaniaethu rhyngddynt gan fod gan y broga goesau hirach, mae'n nhw'n sboncian ac mae'r croen yn llaith. Gellir adnabod grifft y broga'n hawdd hefyd gan ei fod yn cael ei ddodwy bob yn dipyn, mewn llwythi; mae grifft y Llyffant dafadennog, fodd bynnag, mewn rhesi hir.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Broga, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.