Band llydan o oleuni sydd i'w weld yn disgleirio yn wan ar draws awyr y nos o lefydd tywyll yw'r Llwybr Llaethog.
Fe'i gwnaed o oleuni miliynau o sêr.
Mae'r Llwybr Llaethog yn eithaf hawdd i'w weld gyda'r llygad noeth, ymhell o oleuadau trefol; ymddengys fel band sy'n amgylchu'r wybren. Gall oleuadau trefi guddio'r Llwybr Llaethog yn llwyr. Mae'r band yn fwy llydan a mwy disglair mewn rhai rhannau nag eraill, yn enwedig yn y cytserau Sagittarius a Scorpius. Mae'r band yn afreolaidd ac yn torri i ddwy rhan mewn rhai lleoedd.
Mae'r enw Llwybr Llaethog yn tarddu o'r henfyd clasurol, gan ei bod yn edrych yn debyg i ffordd a wneuthwyd allan o laeth. Via lactea (sef ffordd laethog) oedd yr hen enw Lladin, a oedd yn dod o'r enw Groeg galaxías kýklos (γαλαξίας κύκλος), sef cylch laethog.
Un hen enw Cymraeg am y Llwybr Llaethog oedd Caer Gwydion, sy'n gysylltiedig â Gwydion fab Dôn yn chwedlau y Mabinogi. Mae hen enwau eraill yn cynnwys Bwa'r Gwynt, Heol y Gwynt, Llwybr y Gwynt, y Ffordd Laethog, y Ffordd Wen a'r Ffordd Laethwen.
Edrychodd Galileo Galilei ar y Llwybr Llaethog trwy'i delesgop yn y flynyddoedd 1609 a 1610. Fe welodd bod y Llwybr Llaethog wedi ei chyfansoddi o nifer enfawr o sêr o ddisgleirdeb gwan.
Mae mwyafrif o'r sêr yn ein galaeth ni yn bodoli mewn disg eang tenau. Lleolir y Cysawd yr Haul a'r Ddaear yn y disg, a felly mae'r sêr pell yn ymddangos fel band o amgylch awyr y nos. Hwn yw'r Llwybr Llaethog.
Yn y cytser Sagittarius yw lleoliad canol yr Alaeth, a felly mae'r Llwybr Llaethog yn fwyaf disglair yn y cyfeiriad hwn. Mae Ymchwydd yr Alaeth hefyd i'w ganfod yng nghyfeiriad Sagittarius a Scorpius, sydd yn ychwanegu i'r disgleirdeb y Llwybr Llaethog yn ardal hon o'r wybren.
Canfyddir nifylau a chlystyrau sêr yn y Llwybr Llaethog yn ogystal â'r nifer enfawr o sêr. Mae llawer o'r nwy yn yr Alaeth yn bodoli yng nghanol y disg serol, mewn haen denau. Cymysglyd gyda'r nwy ydy llwch sydd yn amsugno'r goleuni sêr tu ôl. Effaith y llwch ydy creu ardaloedd o'r Llwybr Llaethog sydd yn edrych yn dywyll o'r Ddaear. Dyma rheswm mae'r Llwybr Llaethog yn edrych yn afreolaidd mewn rhannau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llwybr Llaethog yn awyr y nos, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.