Mae Lily Rose Beatrice Allen (ganed 2 Mai 1985) yn gantores-cyfansoddwraig pop Seisnig.
Mae'n fwyaf adnabyddus am ei chaneuon "Smile", "LDN", "Littlest Things", "Alfie", ei fersiwn hi o "Oh My God", "The Fear" a'i harddull "Mockney". Merch yr actor, digrifwr a'r cerddor Keith Allen a'r cynhyrchydd ffilm Alison Owen ydyw. O'r 12fed o Chwefror 2008, cyflwynodd Allen ei sioe ei hun ar BBC Three o'r enw Lily Allen and Friends.
Lily Allen | |
---|---|
Ganwyd | Lily Rose Beatrice Allen 2 Mai 1985 Hammersmith |
Man preswyl | Cotswolds, Notting Hill, Islington |
Label recordio | London Records, Capitol Records, Regal Recordings, Warner Bros. Records, Parlophone Records, EMI |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, actor, actor ffilm, cyflwynydd teledu, cyflwynydd, artist recordio |
Cyflogwr | |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, grime, synthpop, indie pop, Ska |
Math o lais | soprano |
Tad | Keith Allen |
Mam | Alison Owen |
Priod | David Harbour, Sam Cooper |
Gwobr/au | Ivor Novello Awards, Ivor Novello Awards |
Gwefan | http://www.lilyallenmusic.com/ |
Roedd Allen wedi cael ei geni yn Hammersmith, Gorllewin Llundain, yn ferch i'r digrifwr o Cymru a Actor Keith Allen ar cyfarwyddwr ffilm Alison Owen. Symudodd ei theulu i Ogledd Llundain i fwrdeistref Islington. Mae ganddi chwaer hŷn, Sarah; a brawd iau, Alfie Owen-Allen (testun ei chân 'Alfie'); a chwaer iau Rebecca. Mae ganddi nifer o hanner-brodyr a chwiorydd. Am gyfnod, bu Allen yn byw gyda'r digrifwr Harry Enfield tra'r oedd ei mam ac yntai'n canlyn. Mae hefyd yn ferch-bedydd i leisydd y Wild Colonials, Angela McCluskey. Cyfeirir at y canwr a gitarydd Joe Strummer o fand The Clash fel tad-bedydd iddi; er nad yw hyn yn llythrennol wir, roedd Strummer yn glos i Allen. Dywed Allen fod ganddi atgofion melys o'r wythnos a hanner y treuliodd y ddau ohonynt gyda'i gilydd yng Ngŵyl Glastonbury.
Blwyddyn | Gwobr | Categori | Canlyniad |
---|---|---|---|
2006 | Q Awards | Act Newydd Gorau | Enwebwyd |
Digital Music Awards | Artist Pop Gorau | Enillodd | |
2007 | Gwobrau'r BRITs | Artist Benywaidd Unigol Gorau | Enwebwyd |
Albwm Prydeinig Mastercard (Alright, Still) | Enwebwyd | ||
Act Newydd Gorau | Enwebwyd | ||
Gwobrau Fideo Cerddorol MTV | Artist Newydd Gorau | Enwebwyd | |
Gwobrau NME | Dillad Gwaethaf | Enillodd | |
2008 | Gwobrau'r Grammy | Albwm Cerddoriaeth Gwahanol Gorau (Alright, Still) | Enwebwyd |
Gwobrau Ffasiwn y Stryd Fawr | Seren wedi gwisgo orau | Enwebwyd | |
Gwobrau BMI | ("Smile") | Enillodd |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Lily Allen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.