Ardal ym Mwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea, Llundain Fwyaf, yw Notting Hill, sy'n agos i gornel gogledd-orllewinol Gerddi Kensington.
Mae'n fyd-enwog am ei Garnifal, ac am fod yn gartref i'r farchnad stryd ar Heol Portobello.
Math | ardal o Lundain |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 1.59 km² |
Yn ffinio gyda | North Kensington, Kensington |
Cyfesurynnau | 51.5096°N 0.2043°W |
Cod OS | TQ245805 |
Cod post | W11, W10 |
Roedd yn ardal dlawd a difreintiedig, hyd at y 1980au, ond bellach mae'n cael ei gyfrif yn ardal gefnog a ffasiynol, sy'n enwog am ei dai terras enfawr, Fictorianaidd, a'i siopau a'i dai-bwyta drudfawr - yn enwedig oddeutu Westbourne Grove a Clarendon Cross. Defnyddiodd erthygl yn y Daily Telegraph yn 2004 yr ymadrodd y Notting Hill Set i gyfeirio at grwp o wleidyddion Ceidwadol megis David Cameron a George Osborne a drigoodd yma'r adeg honno. Mae rhan orllewinol Notting Hill yn cynnwys ardal lle arferid gwneud brics a theils yn nechrau'r 19g, gan ddefnyddio clai'r ardal. Mae'r unig bopty sydd wedi goroesi i'w weld yn Walmer Road. Symudodd meichiaid yma gyda'u moch, wedi iddynt gael eu gorfodi allan o ardal Marble Arch. Roedd hyn yn rhan o gynllun i "lanhau" rhannau o Lundain a alwyd yn "Potteries and Piggeries".
Cynhelir y Carnifal yn Awst, dros gyfnod o ddeuddydd: ar y Sul a'r Llun (Gŵyl y Banc) dilynol. Mae'n ddigwyddiad blynyddol, ers 1965, a chaiff ei drefnu gan y boblogaeth Garibiaidd, llawer ohonynt wedi byw yma ers y 1950au. Yn ei anterth, ymwelodd 1.5 miliwn o bobl, sy'n ei wneud yn un o wyliau mwyaf Ewrop. Cafwyd cryn sylw yn y wasg i derfysg pan ymladdwyd rhai brwydrau stryd gyda'r heddlu yn 1976, wedi i'r heddlu arestio person am ddwyn. Anafwyd dros gant o'r heddlu yn y terfysgoedd a ddilynodd hynny.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Notting Hill, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.