Lleng Rufeinig a ffurfiwyd gan Octavian wedi 41 CC oedd Legio XIV Gemina Martia Victrix (Efaill, Rhyfelgar a Buddugol).
Fel rheol mae "Efaill" yn y teitl yn awgrymu fod y lleng wedi ei ffurfio trwy uno dwy leng flaenorol. Ychwanegwyd Martia Vicrix gan yr ymerawdwr Nero wedi eu buddugoliaeth dros Buddug (Boudica).
O'r flwyddyn 9OC ymlaen, roedd y lleng ym Moguntiacum, Germania Superior. Yn 43 roedd y XIV Gemina Martia Victrix yn un o bedair lleng a ddefnyddiodd was Aulus Plautius i ymosod ar Brydain yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Claudius. Yn 60 neu 61 bu gan y lleng yma ran flaenllaw yng ngorchfygu gwrthryfel Buddug. Mae'n debyg i'r lleng gymeryd rhan yn yr ymosodiad ar Ynys Môn dan y llywodraethwr Gaius Suetonius Paulinus; a pan gyrhaeddodd y newyddion am wrthryfel Buddug, y XIVeg oedd yr unig leng gyflawn yn y fyddin a arweiniodd Paulinus o Fôn i Lundain cyn ymladd y frwydr derfynol yn erbyn Buddug.
Yn 89 gwrthryfelodd llywodraethwr Germania Superior, Lucius Antonius Saturninus, yn erbyn Domitian, a chefnogwyd ef gan y XIVfed a'r XXI Rapax, ond gorchfygwyd y gwrthryfel.
Pan ddinistriwyd lleng XXI yn 92, gyrrwyd XIV Gemina i Pannonia yn ei lle. Bu'n ymladd yn erbyn y Sarmatiaid a rhyfeloedd Trajan yn erbyn y Daciaid. Symudwyd y lleng i Carnuntum, lle bu am dair canrif. Ymladdodd yn erbyn y Mauri dan yr ymerawdwr Antoninus Pius, ac yn erbyn y Parthiaid dan Lucius Verus. Pan oedd yn ymladd yn erbyn y Marcomanni, Carnutum oedd pencadlys yr ymerawdwr Marcus Aurelius.
Yn 193, wedi marwolaeth Pertinax, cyhoeddwyd pennaeth y XIVeg, Septimius Severus, yn ymerawdwr gan lengoedd Pannonia. Ymladdodd y XIVeg drosto yn erbyn Didius Julianus (193) a Pescennius Niger (194), ac mae'n debyg iddi ymladd yn erbyn y Parthiaid pan gipwyd eu prifddinas, Ctesiphon yn 198.
Ar ddechrau'r 5g roedd y lleng yn dal yn Carnuntum.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Legio XIV Gemina, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.