Un o ddinasoedd mwyaf Mesopotamia oedd Ctesiphon.
Daw'r enw Lladin 'Ctesiphon' neu 'Ctesifon' o'r Groeg 'T(h)esifon' neu 'Et(h)esifon','Ktesiphon' mewn Groeg diweddarach. Safai ar lan ddwyreiniol Afon Tigris, gyferbyn a dinas Roegaidd Seleucia. Mae yn awr yn Irac, tua 35 km i'r de o Baghdad.
Math | dinas hynafol, safle archaeolegol, prifddinas |
---|---|
Poblogaeth | 500,000 |
Sefydlwyd |
|
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Seleucia-Ctesiphon |
Sir | Asuristan |
Gwlad | Irac |
Arwynebedd | 30 km² |
Gerllaw | Afon Tigris |
Yn ffinio gyda | Seleucia |
Cyfesurynnau | 33.09361°N 44.58083°E |
Ctesiphon oedd prifddinas ymerodraeth Parthia a phrifddinas brenhinllin y Sassanid yn ddiweddarach. Yn y 6g, hi oedd dinas fwyaf y byd. Yr unig olion sydd i'w gweld bellach yw bwa mawr Taq-i Kisra, yn y rhan sy'n awr yn dref Salman Pak.
Oherwydd ei phwysigrwydd strategol, bu llawer o ymladd o gwmpas Ctesiphon. Cipiwyd hi nifer o weithiau gan yr Ymerodraeth Rufeinig, yn fwyaf nodedig gan yr ymerawdwr Trajan yn 115. Dychwelwyd y ddinas i'r Parthiaid gan ei olynydd Hadrian yn 117 fel rhan o gytundeb heddwch. Cipiwyd hi eto gan y cadfridog Rhufeinig Avidius Cassius yn 164, ac yn 197, anrheithiwyd y ddinas gan yr ymerawdwr Septimius Severus, a werthodd filoedd o'r trigolion fel caethion. Lladdwyd yr ymerawdwr Julian mewn brwydr tu allan i'r muriau yn 363 yn ystod ei ryfel yn erbyn Shapur II.
Bu brwydr o gwmpas adfeilion Ctesiphon yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan orchfygwyd byddin Brydeinig oedd yn ceisio cipio Baghdad gan fyddin yr Ymerodraeth Ottoman.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ctesiphon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.