Mynydd sanctaidd 6,638 m (21,778 troedfedd) o uchder yng nghadwyn mynyddoedd Gangdisê yn Himalaya Tibet yw Kailash (Kailāśā), y cyfeirir ato hefyd fel Mynydd Kailash (Devanagari: कैलाश (पर्वत) Kailāśā (Parvata); Tibeteg: Gangs Rin-po-che).
Wrth odre'r mynydd gorwedd tarddleoedd rhai o'r afonydd mwyaf yn Asia, sef Afon Indus, Afon Sutlej (un o brif lednentydd yr Indus), Afon Brahmaputra (Tsang-po), ac Afon Karnali (un o lednentydd mawr Afon Ganga). Mae'n fynydd sanctaidd i ddilynwyr pedair crefydd, sef Hindŵaeth, Bwdhaeth, Jainiaeth a'r ffydd Bön. Mae Hindŵaid yn credu mai Kailash yw trigfeydd yr Arglwydd Shiva a'i gymar Parvati. Gorwedd y mynydd ger llynnoedd Manasarowar a Rakshastal yn Nhibet.
Math | mynydd, mynydd sanctaidd, virgin peak |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ngari Prefecture |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Uwch y môr | 6,638 metr |
Cyfesurynnau | 31.0669°N 81.3128°E |
Amlygrwydd | 1,319 metr |
Cadwyn fynydd | Gangdise Shan |
Does neb wedi ceisio dringo Kailash allan o barch ato fel mynydd sanctaidd. Erbyn heddiw, Kailash yw'r mynydd uchaf yn y byd sydd heb ei ddringo.
Ystyr y gair Sansgrit Kailāśā yw "crisial". Mae'r enw Tibeteg am y mynydd, Gangs Rin-po-che, yn golygu "gem werthfawr yr eiraoedd". Enw arall arno yw Tisé (Tibeteg: ཏི་སེ་). Mae'r Jainiaid yn ei law yn Ashtapada. Mae enwau eraill arno yn Hindŵaeth yn cynnwys Rajatadri ("Mynydd Arian") a Hemakuta ("Y Copa Euraidd").
Mae Kailash yn gyrchfan pererindod ers canrifoedd lawer. Fe'i hystyrir yn drigfod Shiva a Parvati (Duwies y Mynyddoedd) ac mae rhai yn credu ei fod yn ffurf ddaearol o'r shivalinga ei hun. I'r Tibetiaid mae'n drigfod daearol y Bwdha Demchog ac fe'i cysylltir â thraddodiadau am Guru Rinpoche a Milarepa. Hyd at y 1950au, pan oresgynnwyd Tibet gan Weriniaeth Pobl Tsieina, arferai pererinion o India groesi'r Himalaya i Dibet i gylchu'r mynydd sanctaidd. Ers 1980 mae awdurdodau Tsieina wedi caniatáu i nifer fechan o bererinion wneud y daith, gan gychwyn o India neu Lhasa, ond dan arolygiaeth fanwl.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Kailash, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.