Un o weriniaethau Rwsia a deiliad ffederal a leolir yng Ngogledd y Cawcasws yw Gweriniaeth Kabardino-Balkar (Rwseg: Кабарди́но-Балка́рская Респу́блика; Kabardieg: Къэбэрдей-Балъкъэр Республикэ; Balkareg: Къабарты-Малкъар Республика), neu Kabardino-Balkaria (Rwseg: Кабарди́но-Балка́рия neu Kabardino-Balkarskaya Respublika, neu Kabardino-Balkariya).
Sefydlwyd y weriniaeth ar 5 Ionawr 1936. Mae gan ddi boblogaeth o 901,494 (2002). Y brifddinas yw Nalchik.
Gyda arwynebedd o 12,500 km², mae'r weriniaeth yn ffinio â Stavropol Krai, Gweriniaeth Gogledd Ossetia-Alania a Gweriniaeth Karachay-Cherkess yn Rwsia ei hun ac mae'n gorwedd hefyd ar y ffin rhwng Rwsia a Georgia, i'r de. Yma ceir mynyddoedd uchaf y Cawcasws, yn cynnwys Mynydd Elbrus (5,642 m), y mynydd uchaf yn Ewrop gyfan.
Arsen Kanokov yw'r arlywydd presennol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Kabardino-Balkaria, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.