Rheolwyd yr Ariannin gan jwnta filwrol o 1976 hyd 1983.
Cipiodd y fyddin grym mewn coup d'état ym 1976, a datganwyd "y Broses Ad-drefnu Genedlaethol" (Sbaeneg: Proceso de Reorganización Nacional). Dechreuodd y Rhyfel Brwnt yn erbyn grwpiau gerila adain chwith, a bu camdriniaethau hawliau dynol gan gynnwys artaith a llofruddiaethau torfol gan sgwadiau marwolaeth y jwnta. Yn sgil trechiad yr Ariannin yn Rhyfel y Falklands (1982) a gwrthwynebiad ar draws y wlad i'r jwnta, cwympodd llywodraeth y cadfridogion a dychwelodd y wlad at ddemocratiaeth ym 1983.
Enghraifft o'r canlynol | llywodraeth, lladdiad torfol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 24 Mawrth 1976 |
Dechreuwyd | 24 Mawrth 1976 |
Daeth i ben | 10 Rhagfyr 1983 |
Gwladwriaeth | yr Ariannin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Jwnta filwrol yr Ariannin (1976–83), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.