Cyfres deledu Gymraeg a'i hail-addaswyd fel ffilm yw Joni Jones.
Stephen Bayly oedd y cyfarwyddwr. Mae'n seiliedig ar Gwared y Gwirion (1966) gan R. Gerallt Jones. Mae'n adrodd hanes bachgen ifanc yng Ngogledd Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Darlledwyd am y tro cyntaf ar S4C, dydd Nadolig 1988. Pum pennod 30 munud oedd gan y gyfres ddrama wreiddiol, ond fe'i ail-addaswyd ar gyfer Miramax a Disney fel ffilm nodwedd 90 munud o hyd. Yr ail raglen yn y gyfres, "Yr Ifaciwis", oedd y ffilm Gymraeg gyntaf i’w harddangos yng Ngŵyl Ffilm Llundain.
Cyfarwyddwr | Stephen Bayly |
---|---|
Cynhyrchydd | Linda James |
Ysgrifennwr | Ruth Carter |
Cerddoriaeth | Trevor Jones |
Sinematograffeg | Richard Greatrex |
Golygydd | Sara Jolly |
Sain | Malcolm J. Davies |
Dylunio | Hildegard Bechtler |
Cwmni cynhyrchu | Sgrîn ’82 |
Dyddiad rhyddhau | 4 Tach 1982 |
Amser rhedeg | 5 × 30 mun |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Lliw: Lliw
Lleoliadau saethu: Gogledd Cymru
Gwobrau:
Gŵyl ffilmiau | Blwyddyn | Gwobr |
---|---|---|
International Film Festival for Children and Young People, Gijón, Sbaen | 1983 | "Premio Pelayo" |
Chicago International Festival of Children’s Film | 1983 | Cynhyrchiad Teledu Gorau ar Gyfer Plant, Cyfres |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Joni Jones (ffilm), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.