Newyddiadurwr Cymreig oedd John Griffith (16 Rhagfyr 1821 – 13 Rhagfyr 1877), sy'n adnabyddus wrth ei ffugenw Y Gohebydd.
John Griffith | |
---|---|
Ganwyd | 6 Rhagfyr 1821 Abermaw |
Bu farw | 13 Rhagfyr 1877 Lerpwl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Cyflogwr | |
Mam | Maria Roberts |
Brodor o Abermaw, Meirionnydd oedd John Griffith. Ar ôl cychwyn ei yrfa fel groser, cynorthwyodd Hugh Owen yn y gwaith o sefydlu Ysgolion Frytanaidd. Dechreuodd gyfrannu erthyglau i'r newyddiadur misol Y Cronicl, a sefydlasid gan ei ewythr Samuel Roberts ("S.R." Llanbrynmair).
Yn nes ymlaen ymunodd â staff Baner ac Amserau Cymru, newyddiadur arloesol Thomas Gee, a daeth yn ohebydd Llundain i'r papur. Daeth yn adnabyddus wrth y llysenw a fabwysiadwyd ganddo, sef "Y Gohebydd". Fel Thomas Gee, roedd yn Rhyddfrydwr brwd. Ymgyrchai o blaid cael addysg i bawb. Roedd yn un o sefydlwyr Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1873. Gwnaeth ei ran hefyd yn y gwaith o sefydlu Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Griffith (Y Gohebydd), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.