Awdur a dramodydd Cymraeg oedd John Ellis Williams (19 Ebrill 1901 – 7 Ionawr 1975).
Cyhoeddai dan yr enw J. Ellis Williams.
John Ellis Williams | |
---|---|
Ganwyd | 19 Ebrill 1901 Penmachno |
Bu farw | 7 Ionawr 1975 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, dramodydd |
Ganed ef ym mhentref Penmachno, ac addysgwyd ef yn Ysgol y Sir, Llanrwst. Hyfforddodd fel athro yng Ngholeg y Normal, Bangor, a bu'n dysgu ym Manceinion, Blaenau Ffestiniog a Llanfrothen cyn ymddeol yn 1961. Yn 1962, derbyniodd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, ac MBE.
Cyhoeddodd nifer fawr o nofelau, straeon byrion a dramâu, ac roedd yn gyfrannwr cyson i nifer o newyddiaduron. Cydweithredodd gyda Syr Ifan ab Owen Edwards i ysgrifennu a chynhyrchu y ffilm sain gyntaf yn Gymraeg, Y Chwarelwr, yn 1935. Ysgrifennodd nifer o lyfrau plant, yn cynnwys Haf a'i Ffrindiau (tri llyfr, 1929–1930) a Stori Mops (1952).
Roedd yn arloeswr y nofel dditectif yn Gymraeg, gan ysgrifennu dwy gyfres ohonynt, sef Cyfres Hopkyn a Chyfres Parri, gyda phum nofel yn y ddwy.
1. Cyfres Hopkyn
2. Cyfres Parri
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Ellis Williams (1901-1975), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.