Clwb pêl-droed proffesiynol o Loegr yw Ipswich Town Football Club (a elwir hefyd yn 'Ipswich', 'The Tractor Boys', 'Town' a 'The Blues').
Lleolir y clwb yn Ipswich, Suffolk. Maent ar hyn o bryd yn chwarae yn y Bencampwriaeth, ail haen system gynghrair pêl-droed Lloegr, ar ôl ennill dyrchafiad o Gynghrair Un yn nhymor 2022/23.
Enw llawn | Ipswich Town Football Club (Clwb Pêl-droed Tref Ipswich) | |||
---|---|---|---|---|
Llysenw(au) | The Tractor Boys, Town, The Blues | |||
Sefydlwyd | 1878 | |||
Maes | Portman Road (sy'n dal 29,673) | |||
Cadeirydd | Mike O'Leary | |||
Rheolwr | Kieran McKenna | |||
Cynghrair | Y Bencampwriaeth | |||
2022–2023 | Ail (Cynghrair Un) | |||
Gwefan | Gwefan y clwb | |||
|
Sefydlwyd y clwb ym 1878 ond ni wnaethant droi’n broffesiynol tan 1936. Fe’i hetholwyd i ymuno â’r Gynghrair Bêl-droed ym 1938. Maent yn chwarae eu gemau cartref yn Portman Road yn Ipswich. Ipswich yw'r unig glwb pêl-droed cwbl broffesiynol yn Suffolk ac mae ganddyn nhw berthynas gystadleuol hirsefydlog a ffyrnig â Norwich City yn Norfolk. Mae'r ddau dîm wedi cystadlu yng ngêm darbi East Anglia 148 o weithiau ers 1902. Roedd Ipswich yn un o aelodau cychwynnol Uwch Gynghrair Lloegr yn 1992. Lliwiau cartref traddodiadol y clwb yw crysau glas gyda siorts gwyn a sanau glas.
Mae Ipswich wedi ennill teitl cynghrair Lloegr unwaith, yn eu tymor cyntaf yn yr adran uchaf yn 1961–62, ac wedi gorffen yn ail ddwywaith, yn 1980–81 a 1981–82. Fe wnaethant ennill Cwpan FA ym 1977–78, a Chwpan UEFA ym 1980–81. Maent wedi cystadlu ym mhob un o’r tair cystadleuaeth clwb Ewropeaidd, ac nid ydynt erioed wedi colli gartref mewn cystadleuaeth Ewropeaidd, gan drechu Barcelona, Real Madrid, A.C. Milan, Inter Milan, a Lazio, ymhlith eraill.
Sefydlwyd y clwb fel tîm amatur yn 1878 ac fe'u gelwid yn Ipswich A.F.C. tan 1888 pan unwyd â’r Ipswich Rugby Club i ffurfio Ipswich Town F. C. Enillodd y tîm nifer o gystadlaethau cwpan lleol, gan gynnwys y Suffolk Challenge Cup a’r Suffolk Senior Cup. Ar ôl chwarae yn y Norfolk & Suffolk League o 1899 a’r South East Anglian League rhwng 1903 a 1906, fe wnaethant ymuno â’r Southern Amateur League yn 1907 ac wedi i’w canlyniadau wella’n gyson fe ddaethant yn bencampwyr yn nhymor 1921–22. Enillodd y clwb y gynghrair dair gwaith arall, yn 1929–30, 1932–33 a 1933–34, cyn dod yn aelodau sylfaen yr Eastern Counties Football League ar ddiwedd tymor 1934–35. Flwyddyn yn ddiweddarach, troes y clwb yn broffesiynol ac ymuno â’r Southern League. Enillwyd y gynghrair honno ganddynt yn eu tymor cyntaf a daethant yn drydydd yn y flwyddyn ganlynol.
Etholwyd Ipswich i'r Gynghrair Bêl-droed ar 30 Mai 1938, a buont yn chwarae yn y Drydedd Adran (De) tan ddiwedd tymor 1953–54, pan enillwyd yr adran honno ganddynt a'u dyrchafu i’r Ail Adran.
Cwympodd y clwb yn syth yn ôl i’r Drydedd Adran (De) y flwyddyn ganlynol ar ddiwedd tymor gwael, ond gwnaethant well cynnydd wedi i Alf Ramsey ddisodli Scott Duncan fel rheolwr ym mis Awst 1955. Enillodd y clwb y Drydedd Adran (De) eto yn 1956–57, a dychwelyd i'r adran uwch. Y tro hwn, ymsefydlodd Ipswich yn yr Ail Adran, gan ennill dyrchafiad, fel pencampwyr yr adran, i lefel uchaf pêl-droed Lloegr, yr Adran Gyntaf, yn 1960–61.
Yn yr adran uchaf am y tro cyntaf, daeth Ipswich yn Bencampwyr y Gynghrair Bêl-droed ar yr ymgais gyntaf ym 1961–62. Fel pencampwyr cynghrair Lloegr, fe wnaethant gymhwyso ar gyfer Cwpan Ewrop 1962–63, gan drechu Malta Floriana 14–1 rhwng dwy geêm cyn colli i A.C. Milan. Gadawodd Ramsey y clwb ym mis Ebrill 1963 i fod yn gyfrifol am dîm cenedlaethol Lloegr; ar ôl i'r tîm ennill Cwpan y Byd 1966, fe’u hurddwyd yn farchog am ‘wasanaeth i bêl-droed’ yn 1967.
Dilynwyd Ramsey gan Jackie Milburn, a fuasai'n chwaraewyr ymosodol enwog i Newcastle United. Ond o dan ei arweiniad ef fe blymiodd ffawd y tîm ar y cae. Ddwy flynedd ar ôl ennill y gynghrair, llithrodd Ipswich i lawr i’r Ail Adran yn 1964, gan ildio 121 o goliau mewn 42 gêm – un o’r recordiau amddiffynnol gwaethaf erioed ym mhêl-droed proffesiynol Lloegr.
Gadawodd Milburn ar ôl un tymor llawn yn unig a daeth Bill McGarry yn ei le yn 1964. Arhosodd y clwb yn yr Ail Adran am bedair blynedd nes i McGarry arwain Ipswich i ddyrchafiad gyda’i gynorthwyydd Sammy Chung yn nhymor 1967–68. Enillwyd yr adran un pwynt ar y blaen i Queens Park Rangers.
Gadawodd McGarry i reoli Wolves a daeth Bobby Robson yn ei le ym mis Ionawr 1969. Roedd Robson wedi chwarae i dîm Lloegr ar ugain achlysur, gan sgorio pedair gôl. Cyn cael ei benodi yn Ipswich ei unig brofiad o reoli tîm proffesiynol oedd ychydig fisoedd yn Fulham yn 1968. Sicrhaodd y swydd yn Ipswich wedi iddo gwrdd ar hap ag un o gyfarwyddwyr y clwb, Murray Sangster, pan oedd yn sgowtio yn Portman Road ar ran rheolwr Chelsea, Dave Sexton.
Arweiniodd Robson Ipswich i ddau dlws mawr a sawl tymor yn y cystadleuaethau Ewropeaidd. Dechreuodd y cyfnod llwyddiannus ym 1973 pan enillodd y clwb Gwpan Texaco a gorffen yn bedwerydd yn y gynghrair, gan gymhwyso ar gyfer Cwpan UEFA am y tro cyntaf. Yn nhymor 1974–75 fe gyrhaeddon nhw rownd gynderfynol Cwpan FA am y tro cyntaf, gan golli i West Ham United ar ôl ailchwarae, a gorffen yn drydydd yn y gynghrair.
Erbyn diwedd y 1970au, roedd Robson wedi adeiladu tîm cryf gyda thalent ym mhob rhan o’r cae. Arwyddodd y ddau chwaeraewr o'r Iseldiroedd, Arnold Mühren a Frans Thijssen, i ychwanegu sbarc i dîm a oedd yn cynnwys nifer o chwaraewyr rhyngwladol o Brydain gan gynnwys John Wark, Terry Butcher a Paul Mariner, er bod carfan Ipswich efallai heb ddyfnder clybiau mawr sefydledig fel Lerpwl a Manchester United.
Yn y cyfnod hwn roedd Ipswich i’w gweld yn gyson ym mhump uchaf y gynghrair ac yng Nghwpan UEFA. Ar eu hanterth yn nhymor 1979–80, fe guron nhw Manchester United 6–0 mewn gêm gynghrair yn Portman Road, gêm lle arbedodd golwr United Gary Bailey dair cic gosb hefyd. Costiodd y golled ddau bwynt i United – sef y bwlch rhyngddyn nhw a’r pencampwyr Lerpwl ar ddiwedd y tymor.
Daeth llwyddiant mawr ym 1978 pan gurodd Ipswich Arsenal yn Stadiwm Wembley i ennill eu hunig Gwpan FA. Dilynwyd hynny gan fuddugoliaeth yng Nghwpan UEFA yn 1981 sgil trechu AZ Alkmaar 5–4 yn y rownd derfynol dros ddau gymal. Bu i’r rhediad i'r rownd derfynol gynnwys buddugoliaeth o 4–1 yn St Etienne, lle roedd Michel Platini yn gapten ar y pryd. Gorffennodd y clwb hefyd yn ail yn y gynghrair ym 1981 a 1982.
Roedd llwyddiant Robson gydag Ipswich wedi denu sylw llawer o glybiau mwy, ac fe gafodd ei gysylltu â Manchester United pan ddiswyddwyd Dave Sexton ym mis Mai 1981, ond aeth y swydd i Ron Atkinson. Cymdeithas Bêl-droed Lloegr a ddenodd Robson i ffwrdd o Portman Road flwyddyn yn ddiweddarach, pan dderbyniodd eu cynnig i reoli tîm cenedlaethol Lloegr ym mis Gorffennaf 1982.
Olynydd Robson yn Ipswich oedd ei reolwr cynorthwyol Bobby Ferguson. O dan Ferguson, gorffennodd Ipswich ddwywiath tua chanol y tabl, ond gyda dirywiad yn safon y chwarae dechreuwyd cael trafferth i aros yn yr adran uchaf. Roedd adeiladu stand newydd wedi cyfyngu ar gyllideb y clwb, er gwaethaf yr arian a gafwyd o werthu chwaraewyr allweddol megis Frans Thijssen a John Wark.
Cafodd Ipswich eu diraddio i’r Ail Adran ar ddiwedd tymor 1985–86. Gwerthwyd Terry Butcher, eu chwaraewr allweddol olaf o dîm llwyddiannus 1981, i Rangers yr haf hwnnw. Ymddiswyddodd Ferguson, a oedd wedi aros wrth y llyw er gwaethaf y diraddio, ym mis Mai 1987 ar ôl cyrraedd y gemau ail-gyfle ond methu ag ailesgyn i'r Adran Gyntaf. Penodwyd yr Albanwyr John Duncan yn rheolwr. Roedd y tîm yn dal yn yr Ail Adran pan gafodd ef ei ddiswyddo ar 8 Mai 1990.
Ei olynydd oedd cyn-reolwr West Ham, John Lyall. O dan arweinyddithiaeth Lyall enillodd Ipswich yr Ail Adran a'u dyrchafu i Uwch Gynghrair newydd yr FA, yn barod ar gyfer tymor 1992–93. Wedi wyth gêm o’r tymor hwnnw, Ipswich oedd yr unig dîm diguro yn yr Uwch Gynghrair. Roeddent yn bedwerydd ym mis Ionawr 1993 yn sgil colli dwy gêm yn unig. Ond wedi hynny gwelwyd dirywiad a gorffennodd y clwb yn yr 16eg safle. Bu’r tymor canlynol yn un anodd a llwyddodd Ipswich i osgoi diraddio o drwch blewyn wedi i Sheffield United ildio gôl yn amser anafiadau a cholli 3–2 yn Chelsea ar ddiwrnod olaf y tymor. Chwe mis yn ddiweddarach, nid oedd safon y chwarae wedi gwella, a diswyddwyd Lyall fel rheolwr ym mis Rhagfyr 1994 a’r clwb wedi ei sodro i waelod yr Uwch Gynghrair.
Ni lwyddodd olynydd Lyall, George Burley, i weddnewid perfformiadau’r tîm, a dioddefodd Ipswich eu canlynaid gwaethaf yn yr Uwch Gynghrair drwy golli 9–0 i Manchester United ar eu ffordd i gael ei diraddio. Yn ôl yn ail haen y gynghrair, fe arweiniodd Burley y clwb i’r gemau ailgyfle deirgwaith o’r bron, ond cawsant eu trechu yn y rownd gynderfynol bob tro. Dychwelodd Ipswich i’r Uwch Gynghrair o’r diwedd yn 2000 ar ôl dod o’r tu ôl i guro Barnsley 4–2 yn Stadiwm Wembley.
Perfformiodd Ipswich yn rhagorol yn eu tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair drwy orffen yn y pumed safle, gan idlio lle yng Nghynghrair y Pencampwyr i Lerpwl ar ddiwrnod olaf y tymor. Roedd cysur i’w gael y ffaith i’r tîm sirhau lle yng Nghwpan UEFA ac i Burley ennill Gwobr Rheolwr y Flwyddyn yn yr Uwch Gynghrair.
Fodd bynnag, dim ond un fuddugoliaeth a gafodd y tîm yn eu dwy gêm ar bymtheg gyntaf yn y gynghrair y tymor canlynol gan eu gadael ar y gwaelod ym mis Rhagfyr. Er gwaethaf rhediad da ym mis Ionawr a mis Chwefror, ni allai Burley arbed y clwb rhag cael ei ddiraddio’n ôl i'r Bencampwriaeth. Yn sgil colli incwm oherwydd diraddiad aeth y clwb i weinyddiaeth ariannol. Cafwyd peth cysur unwaith eto drwy gyfrwng Cwpan UEFA, y tro hwn ar sail cynllun Chwarae Teg UEFA, a goroesodd Ipswich ddwy rownd cyn colli yn yr ail rownd lawn i Slovan Liberec o’r Weriniaeth Siec. Cafwyd dechrau araf i'r tymor hwnnw yn y gynghrair, gan gynnwys colli 0-3 i Grimsby Town, a chafodd Burley ei ddiswyddo ym mis Hydref 2002 ar ôl bron i wyth mlynedd.
Cafodd hyfforddwr y tîm cyntaf, Tony Mowbray, bedair gêm fel rheolwr dros dro, gan ennill unwaith, ond cafodd ei ddisodli fel rheolwr gan gyn-reolwr Oldham Athletic, Everton a Manchester City, Joe Royle, a oedd wedi chwarae i’r gelyn lleol Norwich City. Etifeddodd Royle dîm a oedd yn ymlafnio tua gwaelod yr Adran Gyntaf, ond adfywiodd hynt y tîm fel eu bod bron â chyrraedd y gemau ailgyfle. Yn nhymor 2003–04 daeth y clwb allan o weinyddiaeth a pharhau i gystadlu am ddyrchafiad yn ôl i'r Uwch Gynghrair. Gorffennon nhw'r tymor hwnnw yn bumed, ond fe'u trechwyd yn rownd gynderfynol y gemau ailgyfle gan West Ham United.
Yn sgil methu â chael dyrchafiad uniongyrchol yn 2004–05, aeth Royle ag Ipswich i'r gemau ailgyfle, ond unwaith eto fe gollon nhw i West Ham United yn y rownd gynderfynol. Yn 2005–06 gorffennodd Ipswich yn y pymthegfed safle – y safle isaf i’r clwb ers 1966. Ymddiswyddodd Joe Royle gyda chydsyniad y clwb ar 11 Mai 2006, a mis yn ddiweddarach, enwyd Jim Magilton yn rheolwr newydd. Ym mis Tachwedd 2007, bu'r clwb yn rhan o drafodaethau gyda'r gŵr busnes Marcus Evans a chyn-gyfarwyddwr Birmingham City, David Sullivan. Ym mis Rhagfyr 2007, prynodd Evans gyfran o 87.5% yn y clwb, gan fuddsoddi oddeutu £ 44 miliwn, a oedd yn cynnwys prynu dyled y clwb o £32 miliwn. Cytunodd Ipswich gytundeb nawdd gyda Grŵp Marcus Evans ar 20 Mai 2008, a barhaodd tan 2018, yr hwyaf yn hanes y clwb.
Ar ôl methu â chyrraedd y gemau ailgyfle er gwaethaf buddsoddiad sylweddol, diswyddwyd Magilton ym mis Ebrill 2009, ac fe apwyntiwyd Roy Keane yn ei le gan y Prif Weithredwr newydd, Simon Clegg. Daeth cyfnod Keane fel rheolwr i ben ar ôl 18 mis aflwyddiannus, pan gafodd ei ddiswyddo ym mis Ionawr 2011. Bu Ian McParland yn rheolwr dros dro cyn i Paul Jewell gymryd yr awenau yn barhaol. Cafwyd dechrau gwael i’r tymor newydd gydag Ipswich ar waelod y Bencampwriaeth ar ôl ennill dim ond un o’u deuddeg gêm gyntaf. Gadawodd Jewell ei swydd ar 24 Hydref 2012 gyda chydsyniad y clwb.
Bu Chris Hutchings yn rheolwr dros dro ar gyfer un gêm, cyn i gyn-reolwr Wolves, Mick McCarthy, gael ei benodi ar 1 Tachwedd 2012. Diogelodd McCarthy statws Ipswich yn y Bencampwriaeth, gan fynd â nhw o waelod y gynghrair ym mis Tachwedd i orffen yn y 14eg safle, nawfed y tymor canlynol ac yn 2014–15 yn y chweched safle a'r gemau ailgyfle. Ond collodd y clwb yn y rownd gynderfynol i Norwich City. Daeth Ipswich i ben tymor 2016–17 yn yr 16eg safle, eu safle isaf ers tymor 1958–59. Ar 23 Mawrth 2018, cyhoeddodd McCarthy y byddai’n gadael y clwb ar ddiwedd ei gytundeb ar ddiwedd tymor 2017–18. Fodd bynnag, yn dilyn buddugoliaeth 1–0 dros Barnsley ar 10 Ebrill 2018, gadawodd McCarthy yn gynnar a chyhoeddi ei ymddiswyddiad. Bu Bryan Klug yn rheolwr dros dro tan ddiwedd y tymor. Gorffennodd Ipswich yn 12fed ar ddiwedd y tymor.
Ar 30 Mai 2018, penodwyd Paul Hurst yn rheolwr newydd y clwb ar gontract tair blynedd. Ond cafodd Ipswich ddechreuad trychinebus i’r tymor, gan gipio un fuddugoliaeth yn unig yn eu pedair gêm ar ddeg agoriadol yn y gynghrair. Gyda’r tîm ar waelod y tabl, cafodd Hurst ei ddiswyddo ym mis Hydref 2018 ar ôl llai na phum mis wrth y llyw – gan hynny ef, yw’r rheolwr byrraf ei wasanaeth yn hanes y clwb. Penodwyd cyn-reolwr Norwich, Paul Lambert, yn ei le ar 27 Hydref. Yn y pen draw, ni lwyddodd Lambert i wella canlyniadau'r tîm a chafodd y clwb ei israddio yn swyddogol ar 13 Ebrill 2019, gan ddod ag arhosiad 17 mlynedd yn y Bencampwriaeth i ben. Gan hynny, aeth y clwb i drydedd haen y Gynghrair am y tro cyntaf ers 1957.
Arhosodd Lambert fel rheolwr ar gyfer y tymor newydd yn y drydedd haen. Gorffennodd Ipswich y tymor yn yr 11eg safle, safle isaf y clwb ers 1953. Penderfynwyd ar y safleoedd terfynol ar sail pwyntiau-y-gêm oherwydd cwtogi'r tymor ym mis Mawrth 2020 o ganlyniad i'r panedemig COVID-19. Ar ôl methu â chynnal ymdrech ystyrlon i enilll dyrchafiad yn ystod y tymor canlynol, gadawodd Lambert y clwb trwy gydsyniad ar 28 Chwefror 2021. Penodwyd cyn bennaeth Wigan, Paul Cook, yn ei le dridiau'n ddiweddarach.
Ar 7 Ebrill 2021, cyhoeddodd y clwb fod Gamechanger 20 Cyf., grŵp buddsoddi o UDA, wedi prynu cyfran fwyafrifol. Roedd y consortiwm yn cynnwys grŵp buddsoddi ORG o Ohio, y 'Three Lions Fund' (sy'n cynnwys tri aelod o fwrdd Phoenix Rising FC) a'r cyn-berchennog Marcus Evans, a arhosodd yn gyfranddaliwr lleiafrifol. Gorffennodd Ipswich dymor 2020–21 yn y nawfed safle, tri lle y tu allan i’r gemau ail gyfle. Roedd disgwyliadau yn uchel ar gyfer y tymor canlynol, ond yn dilyn cyfres o ganlyniadau siomedig, cafodd Cook ei ddiswyddo ym mis Rhagfyr 2021. Ar 16 Rhagfyr 2021, penodwyd Kieran McKenna, hyfforddwr tîm cyntaf Manchester United, i gymryd lle Cook, gyda Martyn Pert yi gynorthwyydd iddo. Gorffennodd Ipswich y tymor yn yr 11eg safle.
Yn nhymor llawn cyntaf Mckenna wrth y llyw, roedd y tîm yn fwy llwyddiannus. Yn dilyn rhediad diguro o ddeunaw gêm gynghrair dyrchafwyd Ipswich yn ôl i'r Bencampwriaeth. Gorffennodd Ipswich y tymor yn yr ail safle, gyda record clwb o 98 pwynt a 101 o goliau cynghrair.
Rhwng 1878 a 1884, chwaraeai Ipswich Town ar ddau faes yn y dref, sef Broom Hill a Brook’s Hall. Yn 1884, symudodd y clwb i Portman Road ac maent yn chwarae yno ers hynny. Yn eu cartref newydd, yn 1890, Ipswich oedd un o’r clybiau cyntaf i ddefnyddio rhwydi gôl. Ni ddechreuwyd datbygu’r maes o ddifri hyd nes 1901, pan adeiladwyd ffatri brosesu tybaco wrth ei ymyl deheuol.
Adeiladwyd y stand gyntaf (a oedd â strwythur pren) ar ochr Portman Road o’r cae yn 1905. Yn 1911 chwythwyd y to i ffwrdd, ac yn ddiweddarach cafodd y maes ei meddiannu gan Fyddin Prydain trwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf. Troes y clwb yn broffesiynol yn 1936, a dechreuodd y gwaith ar y banc teras cyntaf ym mhen gogleddol y maes. Y flwyddyn ganlynol, yn sgil ennill Cynghrair y De, adeiladwyd teras tebyg ym mhen deheuol y 'Churchmans'. Rhoddwyd teras ar bob ochr erbyn 1954 a chodwyd llifoleuadau yn 1959.
Yn 1971, adeiladwyd y Portman Stand ar ddwy lefel ar hyd ochr ddwyreiniol y maes yn lle'r terasau, ac estynnwyd Stand y Gorllewin yn 1982 trwy ychwanegu trydedd lefel. Ailenwyd Stand y Gorllewin yn Pioneer Stand o ganlyniad i noddi’r clwb gan y cwmni electroneg Pioneer Corporation ac fe’i troswyd i fod â seddi yn unig yn 1990. Yn y flwyddyn honno, yn dilyn argymhellion Adroddiad Taylor yn sgil Trychineb Hillsborough y flwyddyn flaenorol, troswyd y terasau yn y standiau gogledd a de yn seddi yn unig, gan greu'r stadiwm holl-sedd gyflawn gyntaf yn lefel uchaf pêl-droed yn Lloegr gyda chapasiti o 22,600.
Arweiniodd llwyddiant ar y cae at fuddsoddiad pellach yn yr isadeiledd, wrth i'r clwb wario dros £22 miliwn ar ailddatblygu standiau’r Gogledd a’r De, gan arwain at gapasiti cyfredol o 30,311, y capasiti mwyaf mewn cae pêl-droed yn East Anglia. Yn ystod yr unfed ganrif ar hugain, dadorchuddiwyd cerfluniau o Syr Alf Ramsey a Syr Bobby Robson y tu allan i'r stadiwm. Ailenwyd Stand y Gogledd er anrhydedd i'r cyn-reolwr Bobby Robson ym mis Medi 2009. Ar 31 Mawrth 2012, ar y cyd â dathlu hanner canrif ers i Ipswich Town ennill yr Adran Gyntaf ar eu hymgais gyntaf, ailenwyd Stand y De er anrhydedd i gyn-reolwr Lloegr ac Ipswich, Syr Alf Ramsey. Erbyn hyn, felly, mae gan Portman Road ddwy stand wedi eu henwi ar ôl dau reolwr mwyaf llwyddiannus yn hanes y clwb, a dau reolwr mwyaf llwyddiannus Lloegr. Ar 10 Gorffennaf 2012, ailenwyd Stand y Gorllewin, a elwid gynt yn Pioneer Stand a’r Britannia Stand, yn East of England Co-operative Stand yn dilyn cytundeb nawdd gyda’r East of England Co-operative Society. Enwyd Stand y Dwyrain, yr hen Portman Stand, yn Cobbold Stand, ar ôl cyn berchnogion y clwb.
Mae'r arwyneb chwarae yn Portman Road yn uchel ei barch ac fe'i pleidleisiwyd y cae gorau yn y gynghrair ar sawl achlysur. Derbyniodd y cyn-dirmon, Alan Ferguson, nifer o anrhydeddau, gan gynnwys Tirmon Uwch Gynghrair y Flwyddyn a Thirmon y Flwyddyn yn y Bencampwriaeth. Mae'r stadiwm hefyd wedi cynnal llawer o gemau rhyngwladol ieuenctid Lloegr, ac un gêm ryngwladol gyfeillgar i Loegr, yn erbyn Croatia yn 2003.
Llysenw diweddar ar gyfer Ipswich yw ‘The Tractor Boys’, a fathwyd yn ystod cyfnod y clwb yn yr Uwch Gynghrair rhwng 2000-01 a 2001–02, pan oeddent yn cystadlu’n gyson yn erbyn clybiau mwy ffasiynol. Mae'r llysenw yn enghraifft o hiwmor hunanddibrisiol sy'n cyfeirio at dreftadaeth amaethyddol ardal Ipswich. Nid yw gwreiddiau'r llysenw’n sicr, ond derbynnir yn gyffredinol iddo ddod i'r amlwg yn dilyn gêm yn erbyn Leeds United yn 2000–2001: roedd Ipswich yn ennill y gêm 2-1 a dechreuodd cefnogwyr Leeds ganu, ‘We're being beaten by a bunch of tractor drivers’. Fe wnaeth heclo gan gefnogwyr clybiau mwy sefydledig yn yr Uwch Gynghrair arwain at y defnydd o’r siant eironig ‘1–0 to the Tractor Boys’ gan gefnogwyr Ispwich. Erbyn heddiw, defnyddir y llysenw yn gyffredin gan y cyfryngau. Dywedodd cyn-reolwr Ipswich, Jim Magilton, yn y wasg leol nad oedd yn hoff o’r llysenw a dywedodd ei fod yn cyfleu ‘images of carrot-crunching yokels’, tra bo chwaraewyr fel Matt Holland yn derbyn y siant yn llawen.
Mae gan Ipswich gefnogaeth fyd-eang, ac mae gan Glwb Cefnogwyr Ipswich ganghennau ledled y byd. Mae gan y clwb gysylltiad arbennig o gryf â chlwb Fortuna Düsseldorf yn yr Almaen, gyda chefnogwyr Fortuna yn ymweld yn flynyddol â Portman Road er 2006. Mae cefnogwyr Ipswich hefyd yn trefnu ymweliadau â’r Merkur Spiel-Arena yn Düsseldorf i gefnogi Fortuna yn eu gemau cartref. Trefnodd y ddau glwb gêm gyfeillgar cyn y tymor yn Düsseldorf yn 2015, sef y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau.
Rhestrir chwaraewyr yn ôl dyddiad eu gêm gyntaf i'r tîm. Mae ymddangosiadau ar gyfer gemau cystadleuol tîm cyntaf yn unig, gan gynnwys ymddangosiadau fel eilydd, tra bo gemau cwpan amser rhyfel a chwpan lleol (fel yr Ipswich Hospital Cup) wedi eu heithrio.
Roedd yr ystadegau'n gywir ar 19 Awst 2021.
* | Aelod o Oriel Anfarwolion Ipswich Town |
+ | Wedi cynrychioli Cymru pan oedd yn chwarae dros Ipswich (gan gynnwys ar fenthyg gyda'r clwb) |
Enw | Tîm Cenedlaethol | Safle | Gyrfa Ipswich Town | Ymddangosiadau | Goliau | Capiau tra gyda ITFC | Goliau |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Ossie Parry | Cefnwr | 1936–1949 | 122 | 0 | 0 | 0 | |
Bryn Davies | Ymosodwr | 1938–1939 | 32 | 7 | 0 | 0 | |
Trevor Morris | Ymosodwr | 1939 | 1 | 0 | 0 | 0 | |
Doug Rees | Mewnwr | 1949–1959 | 387 | 1 | 0 | 0 | |
John Elsworthy* | Hanerwr asgell | 1949–1964 | 435 | 52 | 0 | 0 | |
Billy Reed | Cymru+ | Asgellwr dde | 1953–1958 | 168 | 46 | 2 | 0 |
Aled Owen | Asgellwr | 1958–1963 | 30 | 3 | 0 | 0 | |
Cyril Lea* | Cymru+ | Hanerwr asgell | 1964–1969 | 123 | 2 | 2 | 0 |
Mick Hill | Cymru+ | Ymosodwr | 1969–1972 | 77 | 20 | 2 | 0 |
Les Tibbott | Canol Cae | 1976–1979 | 65 | 1 | 0 | 0 | |
Geraint Williams | Cymru+ | Canol Cae | 1992–1998 | 264 | 2 | 2 | 0 |
Andy Legg | Cymru | Cefnwr Chwith | 1997 | 6 | 1 | 0 | 0 |
Lewis Price | Cymru+ | Gôl-geidwad | 2004–2007 | 75 | 0 | 3 | 0 |
Gavin Williams | Cymru+ | Canol Cae | 2005–2007 | 59 | 3 | 1 | 0 |
Ben Thatcher | Cymru | Cefnwr Chwith | 2008–2010 | 20 | 0 | 0 | 0 |
Troy Brown | Olwr Canol | 2010–2011 | 13 | 0 | 0 | 0 | |
Elliott Hewitt | Cefnwr | 2012–2015 | 10 | 0 | 0 | 0 | |
Johnny Williams | Cymru+ | Canol Cae | 2014–2015 2016 | 28 | 2 | 2 | 0 |
Josh Yorwerth | Olwr Canol | 2015 | 3 | 1 | 0 | 0 | |
Tom Lawrence | Cymru+ | Asgellwr | 2016–2017 | 36 | 11 | 1 | 0 |
Kieffer Moore | Cymru | Ymosodwr | 2017–2018 | 11 | 0 | 0 | 0 |
Emyr Huws | Cymru | Canol Cae | 2017–2021 | 50 | 4 | 0 | 0 |
Ellis Harrison | Ymosodwr | 2018–2019 | 17 | 1 | 0 | 0 | |
Gwion Edwards | Asgellwr | 2018–2021 | 104 | 14 | 0 | 0 | |
James Collins | Cymru | Amddiffynnwr | 2019 | 6 | 0 | 0 | 0 |
James Wilson | Cymru | Olwr Canol | 2019–2021 | 45 | 2 | 0 | 0 |
David Cornell | Gôl-geidwad | 2020–2021 | 12 | 0 | 0 | 0 | |
Wes Burns | Cymru+ | Agellwr / Cefnwr Dde | 2021– | 39 | 13 | 4 | 0 |
Lee Evans | Cymru | Canol Cae | 2021– | 28 | 3 | 0 | 0 |
Nathan Broadhead | Cymru+ | Ymosodwr | 2023– | 1 | 1 |
Dyddiadau | Enw | Cenedligrwydd |
---|---|---|
20 Mai 1936–11 Awst 1937 | Mick O'Brien | Iwerddon |
12 Tachwedd 1937–7 Awst 1955 | Scott Duncan | Yr Alban |
8 Awst 1955–30 Ebrill 1963 | Alf Ramsey | Lloegr |
1 Mai 1963–8 Medi 1964 | Jackie Milburn | Lloegr |
5 Hydref 1964–23 Tachwedd 1968 | Bill McGarry | Lloegr |
13 Ionawr 1969–18 Awst 1982 | Bobby Robson | Lloegr |
19 Awst 1982–17 Mai 1987 | Bobby Ferguson | Lloegr |
17 Mehefin 1987–5 Mai 1990 | John Duncan | Yr Alban |
11 Mai 1990–5 Rhagfyr 1994 | John Lyall | Lloegr |
28 Rhagfyr 1994–11 Hydref 2002 | George Burley | Yr Alban |
28 Hydref 2002 1955–11 Mai 2006 | Joe Royle | Lloegr |
5 Mehefin 2006–22 Ebrill 2009 | Jim Magilton | Gogledd Iwerddon |
23 Ebrill 2009–7 Ionawr 2011 | Roy Keane | Iwerddon |
13 Ionawr 2011–24 Hydref 2012 | Paul Jewell | Lloegr |
1 Tachwedd 2012–10 Ebrill 2018 | Mick McCarthy | Iwerddon |
30 Mai 2018–25 Hydref 2018 | Paul Hurst | Lloegr |
27 Hydref 2018–28 Chwefror 2021 | Paul Lambert | Yr Alban |
2 Mawrth 2021–4 Rhagfyr 2021 | Paul Cook | Lloegr |
16 Rhagfyr 2021–presennol | Kieran McKenna | Gogledd Iwerddon |
Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
|
|
Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ipswich Town F.C., which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.