Gwasgfa o bobl mewn lle cyfyng oedd trychineb Hillsborough a ddigwyddodd yn ystod gêm pêl-droed gynderfynol y Cwpan FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar 15 Ebrill 1989 yn Stadiwm Hillsborough, Sheffield, Lloegr.
Lerpwl">Lerpwl a Nottingham Forest ar 15 Ebrill 1989 yn Stadiwm Hillsborough, Sheffield, Lloegr. Bu farw 96 o bobl, 94 ohonynt ar y diwrnod a 2 arall yn yr ysbyty, ac anafwyd 766, pob un ohonynt yn gefnogwr Lerpwl. Hillsborough oedd y trychineb gwaethaf yn hanes Prydain i ddigwydd mewn stadiwm, ac un o'r trychinebau pêl-droed gwaethaf erioed.
Enghraifft o'r canlynol | stampede, trychineb |
---|---|
Dyddiad | 15 Ebrill 1989 |
Lladdwyd | 97 |
Achos | Crowd collapses and crushes |
Lleoliad | Hillsborough Stadium |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cytunwyd i gynnal y gêm rhwng Lerpwl a Nottingham Forest mewn stadiwm "niwtral", a dewiswyd Hillsborough gan y Gymdeithas Bêl-droed. Penderfynodd Heddlu De Swydd Efrog i roi cefnogwyr Nottingham Forest yn Spion Kop End a chefnogwyr Lerpwl yn Leppings Lane, er yr oedd Spion Kop End yn fwy o faint ac yr oedd disgwyl i fwy o gefnogwyr Lerpwl wylio'r gêm na chefnogwyr Nottingham Forest. Cyn dechrau'r gêm roedd yn amlwg bod gormod o gefnogwyr Lerpwl yn mynd trwy'r giatiau tro. Agorodd yr heddlu giât fawr i'w galluogi i fynd trwy dwnel i gyrraedd dau loc. Achosodd y mewnlifiad i'r llociau wasgi'r bobl, a dringodd rhai ohonynt dros ffensiau i ddianc. Ychydig wedi dechrau'r gêm, syrthiodd cefnogwyr Lerpwl ar ben ei gilydd yn erbyn gwahanfur rhwng y llociau a'r maes chwarae, a daeth y gêm i ben ar ôl chwe munud. Tynodd gwylwyr hysbysfyrddau i lawr er mwyn cario'r clwyfiedig. Dim ond 14 o'r 96 a fu farw a ddygwyd i ysbyty. Yn fuan ar ôl y digwyddiad, bu cyhuddiadau taw trais a hwliganiaeth gan gefnogwyr Lerpwl oedd yn gyfrifol am y drychineb, yn ôl adroddiad drwg-enwog a gyhoeddwyd ar dudalen flaen The Sun dan y pennawd "THE TRUTH". Yn ôl yr ymchwiliad swyddogol i'r trychineb, Adroddiad Taylor (1990), "y prif reswm dros y drychineb oedd methiant rheoli gan yr heddlu". O ganlyniad i gasgliadau'r adroddiad, cafodd terasau sefyll eu tynnu o stadia mawr ar draws Lloegr, Cymru a'r Alban.
Ugain mlynedd wedi'r trychineb, galwodd yr Ysgrifennydd dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Andy Burnham ar yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a chyrff eraill i gyhoeddi'r holl ddogfennau sy'n berthnasol i'r drychineb. Sefydlwyd Panel Annibynnol Hillsborough gyda James Jones, Esgob Lerpwl, yn gadeirydd, a ddatgelodd yn 2012 nad oedd yr un o gefnogwyr Lerpwl yn gyfrifol am y marwolaethau, ac i'r awdurdodau geisio cuddio'r hyn ddigwyddodd, gan gynnwys yr heddlu a newidiodd 164 o ddatganiadau oedd yn ymwneud â'r trychineb. Ymysg yr ymateb i adroddiad y panel oedd ymddiheuriadau gan y Prif Weinidog David Cameron, Prif Gwnstabl Heddlu De Swydd Efrog David Crompton, a Kelvin Mackenzie, golygydd The Sun ar adeg y trychineb.
1°30′2″W / 53.41139°N 1.50056°W
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Trychineb Hillsborough, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.