Mae Ieithyddiaeth/gramadeg disgrifiadol (Saeseng: linguistic/gramatical descriptivism) yn anelu at ddisgrifio’n fanwl gywir sut mae iaith yn cael ei defnyddio.
Nid yw’r dull yn labelu defnydd penodol o iaith yn ‘gywir’ neu’n ‘anghywir’.
Mae ieithyddiaeth ddisgrifiadol yn seiliedig ar edrych ar ddefnydd iaith y byd go iawn, heb wneud unrhyw farn ynghylch a yw defnydd penodol 'gywir' neu beidio. Gall helpu i ddeall sut mae iaith yn newid dros amser. Trwy astudio sut mae pobl yn defnyddio iaith mewn gwirionedd, gall ieithyddion disgrifiadol nodi'r ffactorau cymdeithasol a phersonol sy'n dylanwadu ar newid iaith.
Gall ieithyddiaeth ddisgrifiadol helpu i werthfawrogi amrywiaeth iaith. Trwy astudio sut mae pobl yn defnyddio iaith mewn gwahanol ddiwylliannau a chymunedau, ac i ddeall y gwahanol ffyrdd y gellir defnyddio iaith.
Ar y llaw arall, mae’r dull Ieithyddiaeth ragnodol (Saesneg: linguistic/gramatical prescriptivism, purdeb ieithyddol, hylendid ieithyddol) yn cynnig ffurfiau safonol i’w defnyddio gan geisio gosod rheolau sy'n ymwneud â defnydd "cywir" neu "anghywir", neu sut y "dylid" ei defnyddio.
Gall presgripsiwn ieithyddol deillio o’r hyn mae sector arbennig o gymdeithas yn ei weld yn ffurf gywir neu orau ac yn anelu at ei hyrwyddo fel ffurf o iaith neu safon i’r cyhoedd yn gyffredinol.
Mae'r dulliau disgrifiadol a rhagnodol yn egwyddorion sylfaenol astudiaethau ieithyddol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ieithyddiaeth disgrifiadol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.