Mae Cymraeg Clir yn brosiect Canolfan Bedwyr i helpu ysgrifennu dogfennau cyhoeddus mewn iaith glir a syml.
Yn ôl gwefan Canolfan Bedwyr, uned Iaith Prifysgol Bangor: “mae llawer gormod o Gymry Cymraeg yn teimlo bod y dogfennau Cymraeg yn rhy anodd eu deall a'u defnyddio, ac yn troi at y fersiwn Saesneg.”
Mae logo marc Cymraeg Clir sy'n debyg i'r Crystal Mark gan y Plain English Campaign yn gallu cael ei rhoi ar ddogfen Cymraeg Clir.
Mae prosiectau tebyg ar gyfer llawer o ieithoedd eraill. Mewn llawer o wledydd, mae cyfreithiau yn dweud bod rhaid i asiantaethau cyhoeddus defnyddio iaith glir i wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle teg i ddefnyddio eu gwasanaethau.
Mae'r Plain Language Association International (PLAIN) yn gymdeithas ryngwladol ar gyfer gweithwyr proffesiynol iaith glir sy’n hyrwyddo cyfathrebu clir mewn unrhyw iaith.
Mae'r Plain English Campaign wedi bod yn ymgyrchu yng Ngwelydd Prydain ers 1979 "yn erbyn gobbledygook, jargon a gwybodaeth gyhoeddus gamarweiniol." Maen nhw'n credu dylai pawb gael gwybodaeth glir ac wedi helpu llawer o sefydliadau i wella’u cyhoeddiadau. Mae rheoliadau "Telerau Annheg mewn Contractau Defnyddwyr" 1999 yn gorchymyn iaith "plaen a dealladwy".
Yn yr Unol Daleithiau, dechreuodd y Plain Language Movement gwyno am gyfathrebu'r sâl y llywodraeth America yn y 1970au. Ers 2010 mae'r Ddeddf Ffederal Ysgrifennu Plaen yn dweud bod rhaid i asiantaethau defnyddio iaith glir gyda'r cyhoedd.
Mae'r Wicipedia Simple English yn fersiwn o Wicipedia gyda miloedd o erthyglau mewn Saesneg clir. Mae’n defnyddio geiriau a gramadeg haws i'w deall na'r Wicipedia Saesneg arferol.
Mae Simplified English a Simplified Technical English yn ceisio cadw at y 850 o eiriau Saesneg mwyaf cyffredin eu defnydd.
Mae Einfacher Sprache (iaith syml) yn fersiwn symlach o'r iaith Almaeneg, heb frawddegau cymhleth neu eiriau anghyfarwydd. Mae grŵp targed yn cynnwys y nifer fawr o bobl sydd wedi symud i'r Almaen o wledydd eraill yn ddiweddar ond hefyd siaradwyr Almaeneg sydd ddim yn gallu darllen cystal. Mae rhaglenni newyddion mewn Einfacher Sprache ar y brif sianel radio Deutschlandfunk
Mae Français fondamental yn fersiwn symlach o'r iaith Ffrangeg gyda'r nod o ddysgu Ffrangeg i dramorwyr. Dangosodd arolygon yn y 1950au a'r 1960au bod nifer fach o eiriau mewn Ffrangeg safonol yn cael eu defnyddio yr un ffordd ym mhob sefyllfa. Felly, mae Français fondamental yn defnyddio llai o eiriau na Ffrangeg safonol. Creodd lywodraeth Ffrainc y 'Pwyllgor i Symleiddio'r Iaith Swyddogol' – COSLA (Comité d'orientation pour la simplification du langage administratif), i wella'r iaith swyddogol.
Dechreuodd Mecsico symleiddio iaith y llywodraeth yn 2004 gyda'r prosiect Lenguaje Ciudadano (Iaith y dinesydd). Y bwriad oedd rhoi negeseuon y llywodraeth yn glir.
Mae'r llyfr Cymraeg Clir yn cynnwys 16 prif rheol:
Cymraeg Clir, Canllawiau Iaith, Cen Williams, Gwasg Dwyfor 1999 (ISBN 1 898817 49 9)
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cymraeg Clir, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.