Mae'r hypothalamws yn cysylltu'r system nerfol â'r system endocrin drwy'r chwarren bitwidol.
Daw'r gair (fel llawer iawn o eiriau meddygol eraill) o'r Groeg: ὑποθαλαμος sef 'o dan y thalamws', ac yn wir, yno y mae wedi ei leoli: o dan y thalamws ac uwch ben coesyn yr ymennydd. Enw'r ardal hon o'r ymennydd ydy'r 'dienceffalon'. Fe'i ceir ym mhob mamal; mewn bodau dynol mae oddeutu maint cneuen almwnd.
Gwaith yr hypothalamws ydy rheoli rhai prosesau metabolig a rhai o weithgareddau'r system nerfol. Mae'n creu 'neurophormones' sydd yn eu tro'n ysgogi (neu'n atal) secretu hormonau pitwidol. Mae ganddo waith hynod bwysig: rheoli tymheredd y corff, awch bwyd, gwylltineb a rhythm 24 awr y corff.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hypothalmws, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.