Mae Peter Hugh Dennis (ganed 13 Chwefror 1962) yn gomedïwr, actor, ysgrifennwr, dynwaredwr a throsleisydd Seisnig.
Fe'i adnabyddir fel un hanner y ddeuawd gomedi Punt and Dennis gyda'i bartner comedi Steve Punt, a fel Pete Brockman, y tad yn y comedi sefyllfa BBC One Outnumbered. Ers 2005, mae Dennis wedi bod yn banelydd rheolaidd ar y rhaglen gomedi dychanol BBC Two Mock the Week.
Hugh Dennis | |
---|---|
Ganwyd | Peter Hugh Dennis 13 Chwefror 1962 Kettering |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, actor teledu, ysgrifennwr |
Cysylltir gyda | Outnumbered |
Tad | John Dennis |
Ganwyd Dennis yn Kettering, Swydd Northampton, yn fab i'r athrawes Dorothy M. Dennis (yn gynt, Hinnels) a John Dennis. Mae ganddo un brawd, hefyd o'r enw John, sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel Llysgennad Prydain i Angola. Yn fuan ar ôl genediaeth Dennis, symudodd y teulu i Mill Hill yng Ngogledd Llundain wedi apwyntiad ei dad fel offeiriad mewn plwyf yn yr ardal. Aeth ei dad yn ei flaen i ddod yn Esgob Knaresborough, ac wedyn Saint Edmundsbury ac Ipsiwch. Addysgwyd Dennis yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt. Yn ystod ei amser yno, chwaraeoedd rygbi gyda'r comedïwr Will Self, ac roedd yn brif bachgen yn ei flwyddyn derfynol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hugh Dennis, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.