Rhanbarth yng ngorllewin Arabia yw'r Hijaz neu'r Hejaz (Arabeg: الحجاز, al-Ḥiǧāz).
Mae'n ffinio â'r Môr Coch i'r gorllewin, ac yn estyn o Haql ar Wlff Aqaba i Jizan. Mae'n cynnwys dinasoedd Jeddah, Mecca, a Medina, a chadwyn yr Hijaz.
Gan fod Mecca a Medina yn ddinasoedd pwysicaf Islam, mae'r Hijaz wastad wedi bod yn ardal bwysig i'r grefydd honno. Roedd yn rhan o'r Galiffiaeth ac Ymerodraeth yr Otomaniaid, ac ym 1916 datganodd y Sharif Hussein bin Ali ei hunan yn Frenin Teyrnas Hijaz. Unodd Ibn Saud yr Hijaz a'r Najd gan ffurfio Sawdi Arabia.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hijaz, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.