Heulwen Hâf: Actores a aned yn 1944

Actores a chyflwynwraig o Gymraes oedd Heulwen Hâf (1 Awst 1944 – 5 Rhagfyr 2018).

Roedd yn llais ac yn wyneb cyfarwydd ar S4C drwy ei gwaith fel cyhoeddwr dilyniant y sianel ac fel cyfrannwr ar nifer o raglenni.

Heulwen Hâf
Ganwyd1 Awst 1944 Edit this on Wikidata
Corwen Edit this on Wikidata
Bu farw5 Rhagfyr 2018 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Man preswylLlandaf Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, cyflwynydd teledu, canwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Bywgraffiad

Fe'i ganwyd yng Nghorwen. Roedd ei thad yn gigydd lleol ac roedd ganddi frawd a chwaer hŷn. Roedd ganddi siop trin gwallt ei hun yn 20 mlwydd oed ac fe weithiodd fel rheolwr yn siop Harrods, Llundain. Yn 24 oed priododd gyfreithiwr o Lerpwl ond fe wahanodd erbyn iddi fod yn 29 oed. Yn dilyn torcalon yr ysgariad, treuliodd ddwy flynedd yn Ysbyty Meddwl Dinbych..

Yn 1969, cystadleuodd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru.

Roedd yn byw yn Llandaf, Caerdydd ers diwedd yr 1980au a gweithiodd fel actores, cyflwynydd a therapydd amgen. Canfuwyd fod ganddi gancr y fron yn Ebrill 2008 ac yn 2009 darlledwyd rhaglen Blodyn Haul ar S4C oedd yn dogfennu ei brwydr gyda'r afiechyd.. Yn 2011 cyhoeddodd lyfr ffeithiol Bron yn Berffaith oedd yn adrodd hanes ei brwydr gyda chancr y fron.

Yn Nhachwedd 2018 gwnaeth gyfweliad olaf gyda rhaglen Heno yn sgwrsio am hanes ei bywyd.

Heulwen Hâf: Bywgraffiad, Gyrfa, Cyfeiriadau 
Bron yn Berffaith gan Heulwen Hâf

Gyrfa

Bu'n gweithio fel cyhoeddwr rhaglenni ar S4C am bymtheg mlynedd. Roedd hefyd wedi actio ar Pobol y Cwm. Bu'n chwarae rhan Magda yn y gyfres Lan a Lawr ar S4C ac roedd wedi ymddangos ar Casualty ar BBC One.

Yn 2013, ymddangosodd mewn ffilm fer Fi a Miss World, rhan o gynllun It's My Shout ac fe'i dangoswyd fel rhan o dymor pobl ifanc S4C - Tro Ni. Roedd yn chwarae hen ddynes o'r Bala gyda golygfa freuddwydiol lle mae'n cofio am ei chyfnod fel Miss World.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Heulwen Hâf BywgraffiadHeulwen Hâf GyrfaHeulwen Hâf CyfeiriadauHeulwen Hâf Dolenni allanolHeulwen Hâf1 Awst194420185 RhagfyrActoresS4C

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Perkins County, NebraskaCyfieithiadau i'r GymraegGoresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022James CaanMuhammadMartin ScorsesePencampwriaeth UEFA EwropWebster County, NebraskaNevada County, ArkansasWicipedia CymraegThe BeatlesPapurau PanamaHTMLMamalWoolworthsY Cyngor PrydeinigLouis Rees-ZammitTyrcestanCarroll County, OhioWhatsAppMiller County, ArkansasY Chwyldro OrenGallia County, OhioLlwybr i'r LleuadHamesima XLonoke County, Arkansas69 (safle rhyw)Baxter County, ArkansasDigital object identifierWilliam S. BurroughsSimon BowerMeicro-organebGwainG-FunkCyfansoddair cywasgedigGemau Olympaidd yr Haf 20041403Jason AlexanderHindŵaethAmericanwyr IddewigYmennyddDiwylliant14021680Cyfieithu o'r Saesneg i'r GymraegZeusNeil ArnottVan Buren County, ArkansasRandolph, New JerseyY Cerddor CymreigSophie Gengembre AndersonTrumbull County, OhioPRS for MusicJohn DonneSiôn CornWarsawY FfindirMET-ArtPali1192William Jones (mathemategydd)Martin AmisRiley ReidHitchcock County, NebraskaMackinaw City, MichiganCyflafan y blawdFergus County, MontanaBIBSYSIesuTywysog CymruLlundainVictoria AzarenkaPreble County, Ohio🡆 More