Siop yw Harrods sydd wedi ei lleoli ar Heol Brompton, Llundain, Knightsbridge, Llundain, Lloegr.
Yn gysylltiedig â chwmni Harrods mae Harrods Bank, Harrods Estates, Harrods Aviation a Air Harrods.
Math | siop adrannol |
---|---|
Math o fusnes | cwmni cyfyngedig a gyfyngwyd gan gyfranddaliadau |
Diwydiant | manwerthu |
Tynged | ymosodiad terfysgol |
Sefydlwyd | 1834 |
Sefydlydd | Charles Henry Harrod |
Pencadlys | Llundain |
Perchnogion | Qatar Investment Authority |
Rhiant-gwmni | Qatar Investment Authority |
Lle ffurfio | Llundain |
Gwefan | http://www.harrods.com/ |
Mae safle'r siop yn mesur 4.5 erw (18,000 m2) ac mae ganddi dros filiwn o droedfeddi sgwâr o le gwerthu a hynny mewn 330 o adrannau. Golyga hyn mai Harrods yw un o siopau mwyaf y byd, ynghyd â Macy's Efrog Newydd. Ail siop fwyaf y Deyrnas Unedig yw Selfridges ar Stryd Rhydychen, Llundain sydd ychydig dros hanner maint Harrods gyda 540,000-troedfedd sgwâr (50,000 m2) o le gwerthu.
Arwyddair Harrods ydy Omnia Omnibus Ubique — Pob Peth i Bob Un, Ym Mhobman. Mae nifer o'i hadrannau, gan gynnwys yr adran Nadoligaidd dymhorol a'r Neuadd Fwyd yn fyd enwog.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Harrods, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.