Cyfansoddwr clasurol cyfoes o Wlad Pwyl oedd Henryk Mikołaj Górecki (ynganiad Pwyleg: ) (6 Rhagfyr, 1933 – 12 Tachwedd 2010).
Henryk Górecki | |
---|---|
Ganwyd | Henryk Mikołaj Górecki 6 Rhagfyr 1933 Czernica, Silesian Voivodeship |
Bu farw | 12 Tachwedd 2010 o clefyd Katowice |
Label recordio | Nonesuch |
Dinasyddiaeth | Gwlad Pwyl |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr clasurol, addysgwr, cerddolegydd, cerddor, cyfansoddwr |
Swydd | athro prifysgol cysylltiol |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Symffoni rhif 3, Symphony No. 4 |
Arddull | minimalist music |
Mudiad | minimalist music, modernism |
Plant | Mikołaj Górecki, Anna Górecka |
Gwobr/au | Urdd yr Eryr Gwyn, Medal Aur Diwylliant Meritorious o Gloria Artis, Marchog Uwch Groes Urdd Sant Grigor Fawr, Cadlywydd gyda Seren Urdd Polonia Restituta, Doctor honoris causa o Brifysgol Jagiellonian, Krakow, Gwobr Herder, honorary doctorate from the Catholic University of Lublin, Order Ecce Homo |
llofnod | |
Cafodd ei eni yn Czernica, Silesia, Gwlad Pwyl. Astudiodd Górecki yn Ysgol Uwchradd Gerddoriaeth, yn Katowice rhwng 1955 a 1960. Ym 1968, ymunodd â'r gyfadran a ddaeth yn brofost cyn ymddiswyddo ym 1979. Daeth Górecki yn ffigur blaenllaw yn avant-garde Gwlad Pwyl yn sgîl y dadmer ddiwylliannol wedi ymadawiad Stalin. Roedd dylanwad Webern i'w weld ar ei gyfansoddiadau cyfresol yn y 1950au a'r 1960au, oedd yn glynnu'n gaeth wrth reolau modernaeth anghyseiniol. Dylanwadau eraill arno oedd Luigi Nono, Karlheinz Stockhausen, Krzysztof Penderecki a Kazimierz Serocki. Parhaodd yn y cyfeiriad hwn trwy gydol y 1960au, ond yng nghanol y 1970au, newidiodd ei arddull i un syml, minimalaidd, sanctaidd. Ei drydedd symffoni yw'r enghraifft amlycaf o hyn, a'r unig un o'i gyfansoddiadau ddaeth yn wirioneddol adnabyddus. Datblygodd ei arddull ymhellach mewn gweithiau megis Beatus Vir (1979), Miserere (1981), Kleines Requiem für eine Polka (1993) a'i requiem ddiweddar Good Night. Ar wahân i ddau gyfnod byr ym Mharis a chyfnod ym Merlin, bu Górecki'n byw yn ne Gwlad Pwyl am rhan fwyaf ei oes. Erys yn gyfansoddwr crefyddol yn bennaf.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Henryk Górecki, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.