Mae Hectr neu Hectar ar lafar (symbol:ha) yn uned safonol ychwanegol at yr uned SI, a ddefnyddir i fesur arwynebedd.
Caiff ei ddiffinio fel 10,000 metr sgwâr, a chaiff ei ddefnyddio fynychaf i fesur tir. Yn 1795, pan gyflwynwyd y system fetrig cafodd yr are ei ddiffinio fel 100 metr sgwâr; maint yr hectr, felly, oedd cant are, h.y. "hecto" + "are", sef 100 are, neu 0.01 km2.
Pan ddiwygiwyd y system fetrig yn 1960 drwy gyflwyno System Ryngwladol o Unedau ac Unedau ychwanegol at yr Unedau SI, penderfynwyd - yn rhyngwladol - i hepgor yr are a chanolbwyntio ar yr hectr.
Mae'n cyfateb i 2.47105 erw neu acer.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hectr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.