Prif Weinidog Irac ers 8 Medi, 2014 yw Haider Jawad Kadhim Al-Abadi (Arabeg: حيدر جواد كاظم العبادي) ac ef yw arweinydd y Blaid Dawa Islamaidd.
Ganed 25 Ebrill 1952 yn Baghdad, Irac ac mae'n Shïa o ran ei grefydd. Cyn 2012 ef oedd Gweinidog dros y Cyfryngau (2003-2004, yn Llywodraeth cyntaf wedi oes Saddam Hussein.
Haider al-Abadi | |
| |
75fed Brif Weinidog Irac | |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 8 Medi, 2014 | |
Rhagflaenydd | Nouri al-Maliki |
---|---|
Geni | |
Plaid wleidyddol | Blaid Dawa Islamaidd |
Plant | 3 |
Alma mater | Prifysgol Technoleg Prifysgol Manceinion |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Crefydd | Mwslim Shia |
Ymunodd Al-Abadi â'r Blaid Dawa anghyfreithlon ym 1967. Mynychodd Brifysgol Manceinion a graddiodd gyda PhD mewn Peirianneg Drydanol ym 1993. Dychwelodd i Irac yn ystod y Goresgyniad Irac 2003. Ar 8 Medi 2014, olynodd Nouri al-Maliki fel Prif Weinidog Irac.
Un o'i ddyletswydda pennaf tra'n Brif Weinidog oedd wynebu'r Wladwriaeth Islamaidd (ISIL) . Bu'n hynod o feirniadol o'r Unol Daleithiau America (UDA) am iddynt, yn ei farn ef, orwedd ar eu rhwyfau yn htrach na'u hymladd. Trodd ei olygon tuag at Rwsia ac Iran am gymorth, gan annog cydweithrediad milwrol gyda'r ddau bartner newydd yma.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Haider al-Abadi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.