,
Gwybedog brith Ficedula hypoleuca | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Muscicapidae |
Genws: | Ficedula[*] |
Rhywogaeth: | Ficedula hypoleuca |
Enw deuenwol | |
Ficedula hypoleuca | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gwybedog brith (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: gwybedogion brithion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Ficedula hypoleuca; yr enw Saesneg arno yw Pied flycatcher. Mae'n perthyn i deulu'r Gwybedogion (Lladin: Muscicapidae) sydd yn urdd y Passeriformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn F. hypoleuca, sef enw'r rhywogaeth.
Mae'r Gwybedog Brith yn aderyn mudol sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica i'r de o anialwch y Sahara. Ceir pedwar rhywogaeth o Wybedogion Ficedula yn y rhan yma o'r byd, ac mewn rhai gwledydd gall fod angen gofal i wahaniaethu rhyngddynt. Mae'r aderyn yn 12–13 cm. o hyd, ac mae'r ceiliog yn aderyn du a gwyn tarawiadol; du ar y cefn, gwyn ar y bol a chyda darn gwyn amlwg ar yr adenydd, tra bod gan yr iâr frown golau yn lle du ar y cefn.
Adeiledir y nyth mewn coedydd, ac mae'n arbennig o hoff o goedydd derw, a choedydd lle nad oes llawer o dyfiant islaw'r coed. Adeiledir y nyth mewn tyllau yn y coed neu mewn blychau nythu lle darperir y rhain.
Ystyrir y Gwybedog Brith yn un o adar nodweddiadol Cymru, yn enwedig yn y coedydd derw sy'n tyfu ar y llethrau.
Mae'r gwybedog brith yn perthyn i deulu'r Gwybedogion (Lladin: Muscicapidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Adeinfyr torwyn | Sholicola major | |
Tinwen Finsch | Oenanthe finschii | |
Tinwen Hume | Oenanthe albonigra | |
Tinwen Somalia | Oenanthe phillipsi | |
Tinwen ddu | Oenanthe leucura | |
Tinwen felynllwyd | Oenanthe isabellina | |
Tinwen fraith | Oenanthe pleschanka | |
Tinwen fraith Cyprus | Oenanthe cypriaca | |
Tinwen frongoch | Oenanthe bottae | |
Tinwen glustddu | Oenanthe hispanica | |
Tinwen gycyllog | Oenanthe monacha | |
Tinwen y Garn | Oenanthe oenanthe | |
Tinwen y diffeithwch | Oenanthe deserti |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwybedog brith, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.