Teulu o bryfaid a elwir yn aml yn Weision neidr tindrom yw'r Gomphidae.
Gweision neidr tindrom Gomphidae | |
---|---|
Austrogomphus guerini | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Anisoptera |
Uwchdeulu: | Aeshnoidea |
Teulu: | Gomphidae |
Mae'r teulu hwn o Weision neidr o fewn Urdd yr Odonata ac yn cynnwys tua 90 genera (gweler isod) a 900 rhywogaeth. Mae'r enw 'tindrom' (tin / pen ôl) yn cyfeirio at gylchrannau 7-9 o'r abdomen, sydd yn aml, ond nid pob amser, wedi'i chwyddo fel pastwn.
Mae'r gair Lladin (a gwyddonol) Gomphidae yn dod tarddu o'r gair 'gomffws', sef colyn (Saesneg: hinge).
Un o'u nodweddion pennaf yw eu llygaid - sydd wedi'u gosod ymhell o'i gilydd ar eu pennau; ond gofal! - mae hyn hefyd yn nodwedd o rai o'r mursennod a'r Petaluridae. Gwyrdd, glas neu wyrddlas yw lliw'r llygad. Digon llwydaidd ydy thoracs y rhan fwyaf o'r rhywogaethau ac mae ganddynt resi tywyll arno, rhesi sy'n gymorth i adnabod y gwahanol fathau. Prin yw lliwiau llachar a metalig y grŵp hwn o weision neidr, digon gwelw o'u cymharu gydag eraill; y rheswm a mhyn yw er mwyn i'w lliw gydweddu gyda'u hamgylchedd gwelw.
Ychydig iawn o wahaniaeth sydd rhwng y fenyw a'r gwryw ac maen nhw'n mesur 40 – 70 mm (1.6 - 2.8 mod).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gweision neidr tindrom, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.