Nofel ar gyfer plant a'r arddegau gan E.B.
White yw Gwe Gwenhwyfar (Saesneg: Charlotte's Web). Cyhoeddwyd yn gyntaf yn Saesneg ym 1952 ac addaswyd i'r Gymraeg gan Emily Huws ym 1996. Cyhoeddwyd y gyfrol Gymraeg gan Wasg Gomer; yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | E.B. White |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1952 |
Pwnc | Nofelau Cymraeg i blant a phobol ifanc |
Argaeledd | allan o brint |
ISBN | 9781859023259 |
Genre | nofel i blant, stori dylwyth teg |
Cyfres | Cyfres Cled |
Rhagflaenwyd gan | Stuart Little |
Lleoliad cyhoeddi | Unol Daleithiau America |
Cafodd y nofel ei chyhoeddi'n gyntaf gyda darluniau gan Garth Williams. Mae Charlotte's Web yn cael ei ystyried yn glasur i blant, ac yn addas ar gyfer oedolion.
Ceir gêm fideo'n seiliedig ar yr addasiad.
Yn y nofel ceir hanes mochyn o'r enw Wilbur a'i gyfeillgarwch â phry cop ysgubor o'r enw Charlotte. Pan fo Wilbur mewn perygl o gael ei ladd gan y ffermwr, mae Charlotte yn ysgrifennu negeseuon yn canmol Wilbur (fel "Some Pig") er mwyn darbwyllo'r ffermwr i adael iddo fyw.
Stori i blant am bry copyn arbennig iawn sy'n llwyddo i ddiogelu bywyd Huwcyn y mochyn. Darluniau du-a-gwyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwe Gwenhwyfar, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.